British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Ionawr 2010, 11:40 GMT
Dwy fferm wynt newydd i Gymru

Fferm wynt Gwastadeddau'r Rhyl gan RWE Npower Renewables
Un o'r cwmniau sydd wedi cael cytundeb ydi RWE Npower Renewables oedd yn gyfrifol am fferm gwastadeddau'r Rhyl

Fe wnaeth Llywodraeth San Steffan gyhoeddi pwy sydd wedi ennill cytundebau i godi dwy fferm wynt anferth oddi ar arfordir Cymru.

Yr ardaloedd dan sylw yw ym Môr Iwerddon oddi ar arfordir Ynys Môn, ac ardal o 30 cilomedr oddi ar arfordir y de rhwng Porthcawl a De Sir Benfro.

Dyma drydedd rownd datblygiadau o'r fath ac mewn datblygiadau blaenorol mae dwy fferm wynt wedi eu hadeiladu oddi ar arfordir Cymru, un i'r gogledd o Landudno a'r llall a'r wastadeddau'r Rhyl.

Cwmni Centrica, rhiant gwmni Nwy Prydain, sydd wedi cael yr hawl i ddatblygu parth Môr Iwerddon, rhwng Ynys Môn a Ynys Manaw, a chwmni RWE Npower Renewables sydd wedi cael yr hawl i ddatblygu parth Môr Hafren.

Gyda'i gilydd, fe fydd gan y ddwy fferm wynt y potensial i gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi anghenion domestig Cymru deirgwaith drosodd.

Fe fydd y ffermydd gwynt dan sylw yn cael eu codi ymhellach o'r arfordir, ac mewn d?r dyfnach nag unrhyw beth sy'n weithredol neu sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Ymarferoldeb

Mae 'na naw parth wedi eu clustnodi o amgylch Prydain.

Gobaith y llywodraeth yw y bydd y gwaith o godi'r prosiectau yn dechrau mor fuan â'r flwyddyn 2014.

Map o'r parthau
Mae 'na naw parth yn y DU

Ond mae cwestiynau wedi cael eu codi am yr ymarferoldeb technegol.

Yn eu datganiad wedi'r cyhoeddiad dywedodd Centrica eu bod yn falch o fod wedi ennill yr hawl i ddatblygu oddi ar arfordir Ynys Môn.

Mae'r ardal tua naw milltir oddi ar arfordir yr ynys.

"Gallwn ddarparu digon o bwer ar gyfer dros dair miliwn o gartrefi Nwy Prydain," meddai llefarydd.

"Mae ganddo ni brofiad o weithio yn yr ardal ac mae'r parth yn cwmpasu nifer sylweddol o brosiectau a fydd yn symbyliad ar gyfer canolfannau newydd i ddefnyddio gwynt ar y môr a gwasanaethau cefnogol yn yr ardal.

Ynni adnewyddol

Dywedodd Sarwjit Sambhi, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynhyrchu Pwer Centrica, bod y parth yma yn gallu cynyddu allbwn ynni adnewyddadwy yn sylweddol iawn.

"Ond mae gwynt ar y môr yn ddrud i'w adeiladu a byddwn angen dull cefnogaeth sefydlog, hirdymor i wneud y buddsoddiadau hyn yn fasnachol hyfyw ar gyfer y dyfodol rhagweladwy."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran RWE Npower Renewables eu bod yn falch o gal y cyfle i ddatblygu'r fferm fydd tua 11 milltir oddi ar arfordir de Cymru a naw milltir oddi ar arfordir Dyfnaint, ac un o'r prosiectau adnewyddol ynni mwya allweddol yn y DU.

"Drwy ddatblygu'r fferm fe fyddwn yn chwarae rhan allweddol i gyrraedd targedau'r llywodraeth i gynhyrchu ynni adnewyddol.

"Fel cwmni rydym yn brofiadol fel datblygwr fferm wynt ac yn gweld hwn fel cyfle gwych yn economaidd hefyd."

Er bod ymgyrchwyr dros ynni adnewyddol yn croesawu'r cyhoeddiad mae'n cael ei weld fel hwb i ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad i greu mwy o swyddi 'gwyrdd' yn economi Cymru.

Ond mae ffermydd gwynt mawr oddi ar yr arfordir wedi bod yn destun ffraeo mewn ardaloedd eraill oherwydd yr effaith weledol a'r effaith y maen nhw'n eu cael ar fywyd môr.

Ystadau'r Goron - y corff sydd a'r hawl i ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddol yn y môr - wnaeth y cyhoeddiad ddydd Gwener.

Wrth i'r cyhoeddiad gael ei wneud dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown bod y polisïau o blaid ffermydd gwynt yn y môr eisoes yn rhoi'r DU o flaen nifer o wledydd eraill yn y byd.

Dyfodol llewyrchus

"Mae'r cytundebau diweddara yma yn cynnig platfform newydd ar gyfer buddsoddiad yn niwydiant y DU.

"Mae'r diwydiant ynni gwynt yn rhan ganolog o fwriad economi'r DU i fod yn wald garbon isel ac y gall fod gwerth £75 biliwn a chefnogi hyd at 70,000 o swyddi erbyn 2020."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd y Llywodraeth, Ed Miliband bod gan yr ynys un o'r adnoddau gwynt gorau yn Ewrop.

"Mae'r cyhoeddiad yn un o'r arwyddion cryfaf eto bod y DU yn ceisio symud i fod yn wlad carbon isel a sicrhau dyfodol llewyrchus.

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i gynhyrchu 33 gigawatt o drydan trwy ddefnyddio ffermydd gwynt yn y môr oddi ar arfordir Prydain erbyn 2020.

Mae'r targed yna yn rhan o brosiect ehangach i gael 30% o ynni Prydain o ffynonellau adnewyddol erbyn hynny.

Credir fod 40 o gynigion wedi bod am y naw parth ym Mhrydain.



HEFYD
Gollwng cynllun fferm wynt Ł100m
03 Rhag 09 |  Newyddion
Fferm wynt ar fin cynhyrchu
09 Gorff 09 |  Newyddion
Gwynt y Môr: Dim adolygiad
29 Ion 09 |  Newyddion
Mwy o ffermydd gwynt: 'Dim risg'
24 Maw 09 |  Newyddion
Ffermydd gwynt: Pryder am ffyrdd
27 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific