British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Ionawr 2010, 12:29 GMT
Hywel Teifi Edwards wedi marw

Hywel Teifi Edwards
Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg

Bu farw'r ysgolhaig a'r hanesydd diwylliannol Hywel Teifi Edwards yn 75 oed.

Roedd wedi dioddef cyfnod byr o dostrwydd.

Bu farw'n dawel nos Lun yn Hospis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli gyda'i deulu wrth ei ymyl.

Roedd diddordebau ymchwil yr Athro Edwards yn ymwneud yn bennaf â diwylliant Cymru Oes Victoria gan ganolbwyntio ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel sefydliad sy'n adlewyrchu'r diwylliant hwnnw.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, fod "Cymru gyfan yn dlotach o golli Hywel Teifi Edwards".

Roedd yn awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi neu olygu nifer o gyfrolau, gan gynnwys Yr Eisteddfod 1176-1976, a Gwyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858-1868.

Ef a olygodd ddeg cyfrol Cyfres y Cymoedd.

Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg, gyda llais awdurdodol a thrawiadol.

Mae'n gadael gweddw Aerona, merch Meinir, a mab, y darlledwr Huw Edwards.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth mai "prin iawn yw'r rheini sydd wedi gwneud yr hyn a wnaeth yr athrylith fawr hwnnw - sef i ddadansoddi hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru mewn ffordd mor ddiddorol a difyr ac i wneud hynny'n berthnasol i'r Gymru gyfoes.

"Fe lwyddodd hefyd i atgyfnerthu ein hymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol drwy ei waith," meddai Mr Jones.

"Fel cyfaill a chydweithiwr ar raglen ddogfen S4C yn yr 80au, Almanac, roedd Hywel wastod yn gwmni da ac yn berfformiwr ysbrydoledig.

"Ac fel awdur, fe fydd yn cael ei gofio trwy ei drysorau llenyddol a fydd yn cael eu gwerthfawrogi am genedlaethau i ddod".

Un o gyfeillion yr Athro Edwards oedd y cyn Archdderwydd Meirion Evans.

"Fe oedd ysgolhaig y bobl, wnaeth o ddim ymneilltuo i'w dŵr ifori. Roedd yn mynd â'i wybodaeth gydag ef i festri capeli yn y tywyllwch.

"Yn ogystal â bod yn ddyn cenedl roedd o hefyd yn ddyn ei gymuned. Yn weithgar eithriadol y capel bach yn Llangennech, y cyngor yn Llangennech ac yn gefnogol i'r ysgol yno.

"Doedd dim un unigolyn arall oedd yn gallu llanw'r Babell Lên fel oedd Hywel Teifi gyda'i ddarlithoedd poblogaidd.

"Ma 'na fwlch mawr ym mywyd y genedl a bwlch mawr ym mywyd ei ffrinidau ef."

Arbenigo

Ganed a magwyd Mr Edwards yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion, yn 1934 ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu â'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion, Coleg Prifysgol Abertawe yn diwtor llenyddiaeth Gymraeg.

Daeth yn bennaeth ac Athro ar yr Adran Gymraeg yn y coleg cyn ymddeol.

Bu'n aelod o'r Orsedd ac o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd wedi arbenigo ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru ac ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a thros etholaeth Caerfyrddin yn 1987.

Mae nifer wedi talu teyrngedau i Hywel Teifi Edwards. Dyma rai ddaeth i law y wefan.


Diolch o Galon Hywel Teifi am fodloni i fod yn Llywydd tra fu Aberaeron yn dathlu ei daucanmlwyddiant yn 2007. Yr oedd yn fraint i ddod i nabod Hywel Teifi a'i wraig Aerona - bobl annwyl a chynnes. Trwy'r gwaith caled o drefnu'r achlysur fe fu Hywel Teifi yn ysbrydoliaeth enfawr. Atgofion melys am byth am yr hanes, hwyl, canu a chwerthin fe gawsom yn ei gwmni arbennig. Elinor Ingham, Cadeirydd Daucanmlwyddiant Aberaeron 2007

Gyda thristwch y clywodd holl staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru am farwolaeth disymwth Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Roedd Hywel Teifi yn ddarllenydd ffyddlon ac yn gefnogwr pybyr o'r Llyfrgell ac yn boblogaidd gyda staff ym mhob cylch gwaith. Gwnaeth ddefnydd helaeth iawn o'i chasgliadau am dros hanner canrif. Bydd Cymru a'i Llyfrgell Genedlaethol yn dlotach o'i golli. Coffa da amdano. Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwefr pur oedd clywed Hywel Teifi Edwards yn siarad ac roedd yr hyn oedd 'da fe i'w ddweud yr un mor wefreiddiol â'r ffordd yr oedd e'n ei ddweud e. Bydda i'n cofio ei ddarlith ar 'Darwin a'r Eisteddfod' yn steddfod llynedd am byth. Siwan Gwyndaf, Aberystwyth

Cofion cynnes o Hywel Teifi - Cymro hollol arbennig. Roeddwn wrth fy modd yn ei glywed yn darlithio a siarad yn gyffredinol. Roedd ei agwedd brwdfrydig at Gymru yn heintus iawn. Mi fydd yn golled fawr i Gymru - pob bendith i'w goffadwriaeth. Joseph Evans, Banc America

Roedd e'n ysgolhaig mawr, un o'r mwyaf a welwyd erioed yng Nghymru. Doedd neb yn deall seicoleg y Cymry yn Oes Fictoria yn well nag ef. Mae ei lyfrau yn gampweithiau achos eu bod nhw'n dinoethi clwyfau seicolegol y Cymry...dwi ddim yn gwybod am neb oedd yn gallu cyfuno'r dwys a'r doniol mor ddeheuig ag e.Yr Athro Geraint H. Jenkins

Roedd Hywel yn gyfathrebwr, a hynny efo pobol o bob oedran ac o bob cefndir... Roedd e'n gefnogwr anhygoel o frwd i'r eisteddfod... yn darlithio yn flynyddol, mwy neu lai, yn y babell lên, a fo, am wn i, oedd yr unig berson oedd yn gallu llenwi'r babell lên, dim ots beth oedd y pwnc. Pan roedd ganddo gynulleidfa, roedd y gynulleidfa yn ei ddwylo ac roedd e'n medru eu trin fel roedd o'n mynnu. Ry' ni wedi colli cawr. Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol

Mi fydda i'n cofio'r ddawn trin geiriau a oedd ganddo a'r grefft o fynegi ei hun mewn ffordd bersonol, gyda'i synnwyr digrifwch a'i allu i wawdio a diawlio sefydliadau neu bobol hanesyddol, ac yn gwneud hynny efo'r fath angerdd. Roedd mynd i'w ddarlith fel mynd i'r theatr i weld perfformiad. Bron nad oedd angen gwneud nodiadau achos roedd yr hyn yr oedd e'n ei ddweud mor gofiadwy ac ystyrlon. Roedd yn fraint i fi fod yn fyfyrwraig iddo.Nia Parry, cyflwynydd teledu a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe

Hybwr a lledaenwr diwylliant. Nid yn unig caffael y wybodaeth a'r arbenigedd oedd yn bwysig i Hywel, ond lledaenu'r hyn yr oedd e wedi ei ddysgu wedyn i weddill y genedl. Doedd dim un gymdeithas na grŵp diwylliannol yn rhy fach i Hywel ddod i siarad ac esbonio a rhannu ei wybodaeth â nhw. Roedd Hywel wrth ei fodd yn mynd i ganol y bobol. Fe wnaeth e gyfraniad unigryw trwy roi lle teilwng a haeddiannol i gyfraniad y cymoedd diwydiannol i'r diwylliant Cymraeg... Fe oedd y mwyaf o holl gymeriadau'r diwylliant Cymraeg a bydd y golled ar ei ôl mor aruthrol. Y Prifardd Robat Powell

Colled fawr i'r pentref. Des i nabod Huw ac Aerona, fel rhieni i ddau o blant, yn y 70au, ac roedd Hywel yn llywodraethwr gyda ni am dros 30 o flynyddoedd, ac fe ddaethon ni yn ffrindiau agos. Roedd yn gefnogol tu hwnt i'r ysgol. Roedd e'n uchel ei barch yn y pentref, yn cymysgu gyda phawb. Roedd ganddo amser i bawb.Colin Lee, cyn brifathro Ysgol Gynradd Llangennech

Colled enfawr. Mi fydd Cymru'n dawelach yn sicr. Roedden ni'n fêts ers blynyddoedd. Pob tro byddwn ni'n cwrdd ag ef bydden ni byth yn gadael heb sôn am bêl-droed. Roedd y gêm yn agos iawn at ei galon e. Roedd e wedi bod yn chwaraewr cadarn iawn, i Aberarth ac Aberaeron. Fel wedodd Meirion Evans, ysgolhaig y werin oedd e. Roedd e wastad yn rhoi gwybodaeth i mi, ond doedd e ddim yn pregethu. Roedd popeth roedd e'n ei ddweud yn ddiddorol, pa bwnc bynnag y bydden ni'n ei drafod. Treulies i ddim eiliad ddiflas yn ei gwmni erioed. Roedd e wastad yn codi calon rhywun, ac yn codi calon cenedl. Lyn Ebenezer

Roedd Hywel Teifi Edwards yn ddyn a oedd yn sefyll am Gymru a phopeth Cymreig. Roedd ei frwdfrydedd angerddol am ei waith yn edmygol a dylanwadol i bawb, nid yn unig yn y Brifysgol ond ar draws Gymru. Byddai pob un a oedd yn cwrdd â fe wedi'i swyno gan ei bersonoliaeth gynnes a'i argyhoeddiad ac ymrwymiad personol cryf. Roedd ganddo'r gallu i wneud i bawb a fyddai'n siarad â fe i deimlo fel petaent yn bwysig iddo.

Roedd Hywel Teifi Edwards yn academydd o fri uchel ond nid oedd yn byw mewn tŵr ifori. Roedd e'n byw ymhlith pobl Cymru. Bydd cenedlaethau o fyfyrwyr, cydweithwyr a ffrindiau ym Mhrifysgol Abertawe yn ei golli'n fawr. Rhoddaf fy nghydymdeimlad dwys i'w wraig a'i deulu. Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe

Roedd angerdd a chariad Hywel Teifi Edwards tuag at yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn rhywbeth arbennig iawn. Byddwn yn cofio amdano fel un a oedd bob amser yn llawn egni a bwrlwm, a thrwy ei ddyfeisgarwch dihafal fe unodd bobl o bob oedran ac ardal i rannu balchder yn eu Cymreictod. Rydym wedi colli un o gymwynaswyr mwyaf yr iaith Gymraeg, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl. Diolchwn am ei gyfraniad gwerthfawr, a chydymdeimlwn yn ddwys â'r teulu yn eu colled. Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones

Wrth ategu yr holl deyrngedau i gyfraniad amlochrog Hywel Teifi i fywyd Cymru, hoffwn gofnodi fy niolch iddo am ei ymroddiad a'i gefnogaeth ddiwyro, yn deallusol, yn gyhoeddus ac yn ariannol i'r ymgyrch i godi papur newydd dyddiol cenedlaethol yn y Gymraeg, cynllun oedd yn agos iawn at ei galon. Ar adegau anodd yn yr hanes yr oedd ei negeseuon ffôn personol i beidio â digaloni ond i barhau yn y ffydd yn codi fy nghalon. Hyn i gyd pan oedd ei iechyd ei hun yn fregus. Coffa da amdano. Ned Thomas

Colled mawr, Cymro cadarn a siaradwr cyhoeddus heb ei ail. Roeddwn yn mwynhau gwrando ar ei areithiau difyr. Caerwyn , Caerdydd

Dyn sy'n ysbrydoli. Yng ngeiriau Hywel Teifi ei hun - 'Dyw arwyr ddim yn marw'. Mae hwn yn ddigon gwir am Hywel Teifi Edwards. Dewi Owen, Llanelli

Cymro ysbrydoledig oedd yn caru ei wlad ac a wnaeth gymaint yn ystod ei fywyd i gadw ein hiaith a'n diwylliant yn fyw. Diolch am ei fywyd a'i iaith.Dorian Reeve, Mynyddygarreg, Cydweli

Mae marwolaeth Hywel Teifi Edwards yn golled fawr i Gymru. Roedd e'n un o haneswyr mawr Cymru a bydd colled mawr ar ei ôl ef yma yng Nghwm Cynon gan bawb oedd yn ei adnabod e. Glyndwr Owen, Hirwaun

Colled i'r iaith Gymraeg. Sally Ann Nicholls, Llantrisant


Credaf fod pawb yng Nghymru oedd yn rhannu'r un weledigaeth a'r un gwerthoedd â Hywel Teifi yn galaru heddiw, ond ar yr un pryd yn gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i fywyd y genedl. Bu ei gyfraniad i fywyd gwleidyddol a bywyd diwylliannol Cymru yn gwbl anhepgor. Fe fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweld ei golli yn fawr iawn. Bu iddo siarad mewn nifer fawr o'n raliau a'n cyfarfodydd cyhoeddus. Y tro olaf iddo wneud hynny oedd ddiwedd Mai y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn rali oedd yn galw am yr hawl i Gymru gael y pwerau i greu Mesur Iaith cyflawn. Fel ar bob tro arall cawsom ganddo araith danbaid a chyrhaeddgar oedd yn ysbrydoliaeth fawr i'r dorf o'i flaen. Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Des i nabod Hywel Teifi yn dda pan oedd o'n ymgeisydd dros y Blaid yng Nghaerfyrddin a finnau yn Ynys Môn yn 1987 a ddaru ni gydweithio'n agos gyda'n gilydd bryd hynny. Roedd yn ymgyrchydd brwd iawn dros yr iaith, a thros ein gwlad. Tro diwethaf i mi rannu llwyfan gydag o roedd o'n galw am y mesur newydd ar gyfer hawliau ieithyddol a sefydlu comisiynydd ac mae'r ffaith ein bod ni ar fin llwyddo i gael y pwerau yma yn ddiolch i'w ymgyrchu.

Roedd yn hanesydd ac ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn awdur toreithog, yn sylwebydd craff ac yn Gymro i'r carn. Dyma Gymro balch a ysbrydolodd cynifer o gyd-Gymry i ymgyrchu dros yr hyn yr oeddent yn ei gredu. Mae ei gyfraniad at yr iaith, ac at Gymru yn enfawr. Mae'n meddyliau oll gyda'i deulu yn ystod y cyfnod anodd yma. Ieuan Wyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru


Gŵr bonheddig ac un o gewri Cymru Bleddyn Davies, Cydweli

Mae Cymru wedi colli darn arall o'i asgwrn cefn ond os nad oedd y nefoedd wedi clywed am Gymru o'r blaen mae'n bendant yn gwybod amdani erbyn hyn. Gareth Jones, Foelgastell, Caerfyrddin

Newyddion trist dros ben yw clywed am farwolaeth Hywel Teifi - un o wir gewri Cymru, ysgolhaig a gwerinwr yn un. Mae Cymru wedi colli cawr o ddyn a gyfrannodd cymaint i sicrhau ein bod yn deall hanes ein cenedl a datblygiad y Gymru gyfoes gyda'i democratiaeth ifanc. Mae'r genedl heddiw yn dlotach lle o golli Hywel Teifi. Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru

Fe yw un o'r dylanwadau cryfa a mwyaf positif ar fy mywyd. Roedd e'n Gymro i'r carn ac yn gyfaill ffyddlon. Cawr o Gymro, llewyrched goleuni gwastadol arno. Henry Jones-Davies, Caerfyrddin

Dyn arbennig. Cymro mawr. Roy J Thomas, Caerdydd

Rydym wedi colli un ohonom ni. Un o'r werin. Un oedd yn gwybod ei bethe. Un oedd ynghanol ei bethe. Mae ein dyled ni fel Cymry yn enfawr i ti. Diolch Hywel Teifi am dy gyfraniad i ddiwylliant Cymru Mynyffach i!Alun Thomas Bassaleg Casnewydd

Mae Cymru gyfan yn dlotach heno o golli Hywel Teifi Edwards. Prin iawn yw'r rheini sydd wedi gwneud yr hyn a wnaeth yr athrylith fawr hwnnw - sef i ddadansoddi hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru mewn ffordd mor ddiddorol a difyr ac i wneud hynny'n berthnasol i'r Gymru gyfoes. Fe lwyddodd hefyd i atgyfnerthu ein hymdeimlad o hunaniaeth cenedlaethol drwy ei waith. Fel cyfaill a chydweithiwr ar raglen ddogfen S4C yn yr wythdegau, Almanac, roedd Hywel wastad yn gwmni da ac yn berfformiwr ysbrydoledig. Ac fel awdur, fe fydd yn cael ei gofio trwy ei drysorau llenyddol a fydd yn cael eu gwerthfawrogi am genedlaethau i ddod. I'w deulu y mae'r golled fwya' ac rydym i gyd yn cydymdeimlo gyda nhw heddiw. Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru



HEFYD
Cofio Hywel Teifi Edwards
05 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific