British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ionawr 2010, 07:33 GMT
Rhybudd i yrwyr gymryd gofal

Eira ar ffyrdd yn ardal Bethesda
Ceir mewn trafferth yn ardal Bethesda, Gwynedd

Mae yna rybudd dydd Mawrth i yrwyr gymryd gofal ar y ffyrdd o ganlyniad i'r tywydd oer.

Eisoes mae nifer fawr o gynghorau yn blaenoriaethu graeanu'r prif ffyrdd, gyda chyflenwadau mewn rhai ardaloedd yn prinhau.

Cyhoeddodd dros 100 o ysgolion eu bod ar gau dydd Mawrth oherwydd pryder am iechyd a diogelwch.

Ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o eira ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, Ceredigion, Penfro, Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Cafodd marchnadoedd anifeiliaid eu canslo yng Nghastell Newydd Emlyn a Llanymddyfrif, y ddau yn Sir Gaerfryddin.

Bu meysydd awyr Manceinion a Lerpwl ar gau am gyfnod ddydd Mawrth oherwydd eira.

Yn ôl Cyngor Sir y Fflint, dim ond gwerth pum niwrnod o raean sydd ganddyn nhw ar ôl, a chyflenwad deg diwrnod sydd gan Gyngor Gwynedd.

Mae nifer o awdurdodau fel Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu mai dim ond y priffyrdd fydd yn cael eu trin, tra bod siroedd fel Caerdydd a Mynwy yn dweud bod ganddyn nhw gyflenwadau digonol o raean.

Yn ôl Cyngor Ceredigion fe fyddan nhw'n canolbwyntio ar raeanu'r prif ffyrdd er bod lefel stoc halen y sir i lawr o 5,750 tunnell ar ddechrau'r gaeaf i 1,500 tunnell erbyn hyn.

Gyda rhagolygon am fwy o dywydd oer dywedodd y cyngor y bydd y prif ffyrdd yn cael y flaenoriaeth ac na fyddan nhw'n graeanu ffyrdd gwledig.

"Fe ddylai pob cartref fod wedi derbyn taflen yn nodi ein polisi ni ar ddechrau'r gaeaf," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Mae'r wybodaeth yno ac ar y wefan yn nodi pa ffyrdd sy'n flaenoriaeth i ni.

"Mae'n bwysig ein bod yn cynnal y stoc halen sydd gennym ni."



HEFYD

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific