British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ionawr 2010, 10:00 GMT
SÍr rygbi'n rhedwyr cudd

Rhedwyr Ras Nos Galan
Roedd dros 1000 yn rhedeg yn y rasys blynyddol

Dau o sêr rygbi Cymru oedd y rhedwyr cudd yn ras flynyddol Nos Galan o amgylch Aberpennar yng Nghwm Cynon.

Cariodd James Hook a Jamie Roberts ffagl o fedd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân yn Llanwynno i ganol tref Aberpennar.

Mae'r rhedwr neu redwyr cudd yn cael ei gadw'n gyfrinach tan y funud olaf.

Mae'r rasys wedi cael eu cynnal yng Nghwm Cynon ers 1958 ac mae 'na ras ar gyfer y plant ac ar gyfer oedolion.

Dechreuodd ras yr oedolion yn gynnar eleni, am 7.30pm.

Cymerodd dros 1000 o bobl ran yn y rasys eleni gyda miloedd mwy yn mwynhau'r wledd wrth wylio'r ras a mwynhau'r adloniant oedd ar eu cyfer.

James Hook a Jamie Roberts
James Hook a Jamie Roberts oedd y rhedwyr cudd

Gosododd y ddau chwaraewr rygbi dorch o flodau ar fedd Guto Nyth Brân yn Llanwonno cyn rhedeg ar draws y mynydd i Aberpennar gyda'r ffagl.

Cafodd y ffagl ei danio er cof am y rhedwr chwedlonol ac fel arwydd o gychwyn ras yr oedolion.

Chris Davies o dîm rhedeg Telford enillodd ras y dynion a'r fenyw gyntaf i groesi'r llinell orffen oedd Andrea Whitcombe o dîm rhedeg Abertawe.

"Fe fu hi'n noson dda a llwyddiannus," meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.

"Mae'r digwyddiad yma yn un poblogaidd iawn ac mae'n ffordd dda o ffarwelio â'r flwyddyn.

"Mae'n rhaid diolch i bawb am wneud y noson yn gymaint o lwyddiant."



HEFYD
Morgan oedd y 'rhedwr cudd'
01 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific