British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Rhagfyr 2009, 12:14 GMT
Salwch yn effeithio ar ddau ysbyty

Norovirus
Mae'r haint wedi cau un ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

Mae dau ysbyty wedi gorfod cymryd camau am fod cleifion yn dangos symptomau'r haint norovirus.

Cafodd ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam ei chau ar ôl i'r haint gael ei gadarnhau.

Mae wyth claf wedi eu heintio ers Dydd Llun.

Yn y cyfamser, dywedodd Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, nad oedd un o'r wardiau'n derbyn cleifion newydd oherwydd adroddiadau bod un o'r cleifion wedi ei heintio.

Mae'r haint yn achosi dolur rhydd a chwydu.

Saith ward

Yn gynharach yr wythnos hon cafodd saith ward yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, eu cau ar un adeg wedi i 81 o gleifion ddangos symptomau.

Dywedodd swyddogion iechyd y dylai unrhyw un sy'n dangos y symptomau gadw draw.

"Mae un ward wedi ei heffeithio ond dyw hyn ddim yn anarferol yr adeg yma o'r flwyddyn," meddai Andy Scotson, llefarydd ar ran Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Dylai unrhyw ymwelydd sy'n dangos symptomau gadw draw.

"O ran cleifion sy angen triniaeth ac yn dangos symptomau, mi ddylen nhw gysylltu er mwyn i ni benderfynu'r trefniadau gorau."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific