British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Rhagfyr 2009, 11:37 GMT
Ategu rhybudd am ddwyn peiriannau o ffermydd

Tractor (generig)
Mae tractorau ymhlith yr eitemau sy'n cael eu dwyn

Mae'r heddlu yn annog pobl yng ngogledd Powys i fod yn wyliadwrus wrth iddyn nhw geisio taclo lladron sy'n dwyn peiriannau o ffermydd.

Tractorau a beiciau cwad sy'n cael eu targedu.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio ymgyrch i atal troseddau o'r fath yng nghefn gwlad.

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gofnodi rhifau record a siasi pob tractor a threlar sydd ganddyn nhw.

Dywed y swyddogion eu bod yn eu cynghori i ddefnyddio system hylif fforensig ar eu cerbydau.

"Rydym yn annog y ffermwyr a pherchnogion yr eitemau i gofnodi rhifau siasi pob eitem ac i dynnu lluniau'r eitemau ac unrhyw farc amlwg," meddai'r rhingyll Kelvin Briggs o Heddlu Dyfed Powys.

"Yn ychwanegol, rydym yn eu hannog i ddefnyddio system hylif fforensig Smartwater sy'n benodol ar gyfer pob defnyddiwr a fydd yn creu côd unigryw ac yn gysylltiad yn ôl i'r perchennog.

"Mae hwn yn un adnodd sydd ar gael y mae'r heddlu yn ei ddefnyddio i helpu'r gymuned ac atal troseddwyr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."

Cyngor yr heddlu i unrhyw un ydi i gloi'r peiriannau mewn adeiladau pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio a gosod clampiau ar yr olwynion.

Awgrymodd y gallai'r perchnogion osod marciau a phatrymau unigryw ar y beiciau fel eu bod yn "llai atyniadol i'w dwyn".



HEFYD
Rhybudd am ladrata o gefn gwlad
05 Rhag 09 |  Newyddion
Ffermydd: Mwy o ddwyn
07 Hyd 09 |  Newyddion
Fferm: Dwyn gwerth £40,000
04 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific