British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Rhagfyr 2009, 17:54 GMT
Teyrnged i Madam Sera

Helo Bobol
Roedd hi'n darllen y sr ar raglen Helo Bobol

Bu farw Margaret Glenys Ellis o Gaernarfon neu Madam Sera wedi gwaeledd byr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Roedd yn 67 oed.

Daeth i amlygrwydd yn darllen y sêr ar raglen Helo Bobol ar Radio Cymru.

Roedd yn cyflwyno rhaglen o'r enw Ond O Ddifri ar S4C ac yn gweithio am flynyddoedd yn Llyfrgell Caernarfon.

Ac roedd y fam i un yn briod â'r trefnydd, Martin Ellis.

Fe fydd yr angladd yn Amlosgfa Bangor ddydd Mawrth, Rhagfyr 29, am 2.15pm.

Dywedodd cynfaeres y dre, Mair Williams: "Mi oedd hi'n boblogaidd iawn ... yn llawn bywyd.

"Mi wnaeth hi lot o waith yn lleol ond mi oedd pawb yn ei nabod hi ledled y wlad.

"Dwi'n meddwl am y teulu ... mae'n anodd colli rhywun, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Mae ei thad, Emlyn, yn fyw o hyd."



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific