British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Rhagfyr 2009, 09:00 GMT
Dwyn o gapeli: Arestio tri

Dywed yr heddlu sy'n ymchwilio i nifer o ladradau mewn capeli cymunedol eu bod wedi arestio tri o bobl ifanc.

Ymhlith yr eglwysi gafodd eu targedu ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-Bont ar Ogwr oedd Eglwys Bedyddwyr Pisgah, Capel Mynydd Seion, Eglwys Dewi Sant ac Eglwys Sant Theodore.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i ladrad yn Neuadd Sgowtiaid Mynydd Cynffig a difrodi i Eglwys Sant Ioan.

Cafodd dau fachgen 14 oed o North Cornelly a Maesteg, a bachgen 15 oed o'r Pîl eu harestio.

"Cafodd y tri eu harestio yn fuan iawn," yn ôl yr heddwas Gerard McKay.

"Gallwn sicrhau'r cyhoedd na fyddwn yn derbyn ymddygiad o'r fath.

"Fe fydd nifer o bobl yn mynychu gwasanaethau Nadolig yn siomedig o weld ymddygiad y rhain.

"Bydd aelodau o Dîm Heddlu Cymunedol Porthcawl yn parhau i gadw'r ardal yn ddiogel er mwyn i bawb fwynhau'r Nadolig."

Ymhlith eitemau gafodd eu dwyn yr oedd canhwyllau, cwpan cymun a pheiriant cerddoriaeth.

Dywedodd yr heddlu bod y lladrad yng Nghapel Pisgah wedi digwydd ar Ragfyr 16 a bod y difrod i Eglwys Sant Ioan wedi digwydd rhwng Rhagfyr 19-20.

Mae'r tri sydd wedi cael eu harestio wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific