British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 19 Rhagfyr 2009, 13:38 GMT
Cylch newydd i'r Sioe Fawr

The show on Wednesday
The show has been dogged by bad weather

Mae'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i gael prif gylch newydd ar gost o £360,000 fydd yn cynnwys glawsellt gyda'r gallu i wrthsefyll yn well effaith tywydd drwg.

Y gobaith yy cael yw gosod y cylch a system ddraenio newydd erbyn 2011.

Eleni roedd y cylch yn ymdebygu i gae mwdlyd yn dilyn glaw cyson.

Dywedodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru , sy'n gyfrifol am y maes, fod y safle wedi achosi problemau eleni oherwydd y tywydd.

Maen nhw am sicrhau bod "y beirniadu a'r adloniant yn rhedeg yn ôl y rhaglen ac i liniaru'r difrod a achosir gan dywydd drwg.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Rheoli David Lewis fod y prif gylch wedi diodde'n enbyd yn 2007 a 2009.

"Roedd yna gryn dipyn o siarad ar ol y sioe eleni ar osod wyneb artiffisial .

"Ond er y sioe mae yna farn gymysg wedi bod am wyneb o'r fath.

"Dyw'r rhai sy'n arddangos ceffylau ddim o blaid oherwydd eu bod yn lawr rhy galed, ac y byddai'n amharu rhywfaint ar awyrgylch y sioe.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific