British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009, 15:20 GMT
Chwistrellwyr i dai newydd?

Diffoddwyr tn
Gall taenellwr achub bywydau

Mae Aelodau Seneddol wedi cefnogi cais gan Lywodraeth y Cynulliad am bwerau allai olygu fod pob tŷ newydd yn gorfod gosod chwistrellwyr dŵr.

Dywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y dylai'r Cynulliad gael y grymoedd i orfodi adeiladwyr i osod chwistrellwyr yn nhoeau'r ystafelloedd.

Yr Aelod Cynulliad Ann Jones, oedd yn arfer gweithio fel swyddog tân yn y gogledd, wnaeth sbarduno'r cais am y pwerau.

Roedd AC Dyffryn Clwyd wedi ennill pleidlais yn y cynulliad i gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD).

Ei gobaith nawr yw y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cael y pwerau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd bod gweithio o fewn y gwasanaeth tân am bron i 30 mlynedd wedi codi ei hymwybyddiaeth o effaith "dinistriol" tân.

Dywedodd Ms Jones nad oes 'na reswm pam na all y Cynulliad arwain y ffordd.

Mesur Cynulliad

"Amcan gost gosod taenellwr mewn tŷ newydd wrth ei adeiladu ydi 1% o gyfanswm cost yr adeilad - llai na chost gosod carpedi gweddus drwy'r adeilad," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn falch bod Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i daenellwr gael ei osod ym mhob adeilad ysgol newydd lle mae hynny yn addas ac mewn adeiladau addysg eraill sy'n cael eu hadnewyddu.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod taenellwr yn gallu atal y tân rhag lledu ac achosi niwed neu farwolaeth.

Eglurodd bod y systemau yn "hynod o soffistigedig".

"Fe fydd y dŵr gaiff ei ryddhau yn achosi llai o ddifrod i'r adeilad na'r dŵr sy'n cael ei ddefnyddio gan y diffoddwyr tân," ychwanegodd.



HEFYD
'Dim larwm mwg' mewn cartre
10 Meh 07 |  Newyddion
'Rhowch larwm yn eich cartre'
13 Chwef 07 |  Newyddion
Pennaeth: 'Gormod o danau marwol'
03 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific