British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009, 13:16 GMT
Organau: Newid y drefn gofrestru?

Cerdyn rhoddwr
Newidiadau: Organau yn cael eu cymryd yn awtomatig?

Mae Llywodraeth y Cynulliad am geisio pwerau fyddai'n caniatáu newid y drefn gofrestru ar gyfer rhoi organau.

Gallai trefn newydd olygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod yr unigolyn yn cofrestru nad hwn yw ei ddymuniad.

Byddai gan berthynas agos dal yr hawl i wrthod caniatâd.

Mae gofyn hefyd i'r awdurdodau meddygol allu cadarnhau cyfeiriad y sawl sy wedi marw.

Eisoes mae system o'r fath yn cael ei weithredu ym Mhortiwgal a gwlad Belg.

470 yn aros

Y gred yw bod tua 470 o bobl yng Nghymru yn aros am organau i'w trawsblannu ar hyn o bryd.

Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn amcangyfrif bod 30 o bobl yn marw mewn blwyddyn wrth aros am drawsblaniad organ yng Nghymru.

Daeth cadarnhad o fwriad Llywodraeth y Cynulliad i geisio mwy o bwerau gan y Gweinidog Iechyd Edwina Hart.

"Rwyf eisoes wedi rhoi gwybod fy mod i yn bersonol o blaid system o ganiatâd tebygol.

"Ond, rwy'n derbyn fod hwn yn bwnc sensitif ac emosiynol.

"Dyna pam yr aed ati i gynnal ymgynghoriad llawn i gasglu barn y bobl."

Dywedodd y bod mwyafrif y bobl am newid y drefn bresennol.

"Fe fydd sicrhau mwy o bwerau oddi wrth San Steffan yn cymryd amser felly yn y cyfamser mae'n rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu'r niferoedd sy'n cofrestru i roi eu horganau."



HEFYD
Organau: Newid y drefn bresennol?
19 Medi 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific