British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009, 08:11 GMT
Diwedd cyfnod i weithwyr ffatri Air Products

Ffatri AirProducts Acrefair
Fe wnaeth staff Acrefair fynd i helpu hyfforddi staff yn China

Fe fydd y gweithwyr olaf yn gadael ffatri Air Products ger Wrecsam wrth iddi gau am y tro olaf ddydd Gwener.

Mae'r cwmni wedi bod yn Acrefair am 50 mlynedd ond maen nhw'n symud y gwaith cynhyrchu i China.

Ers mis Medi mae 200 o staff wedi cael eu diswyddo.

Fe fydd y 50 olaf yn gadael bore dydd Gwener.

Bydd y gweithwyr yn gwylio DVD yng nghlwb y ffatri, anrheg i'r holl gyn-weithwyr gan y cwmni.

Arno mae 'na gân sydd wedi cael ei chyfansoddi gan un o'r gweithwyr.

Mewn datganiad dywedodd cwmni Air Products bod y clwb wedi chwarae "rhan bwysig i'r gweithwyr a'r gymuned ehangach dros y blynyddoedd".

Gwrthdroi penderfyniad

"Rydym wedi ymrwymo i ganfod ffordd o drosglwyddo perchnogaeth y clwb i'r aelodau a'i fod yn dal i chwarae rhan allweddol yng nghalon y gymuned," meddai.

John Edwards (trydydd o'r dde) a staff Air Products (Llun gan leaderlive.co.uk)
Mae'r gweithwyr wedi recordio cn i nodi'r diwedd

Mae John Edwards wedi bod yn gweithio yn y ffatri am 33 mlynedd.

Fe wnaeth gyfansoddi'r gân fel teyrnged i'r gweithwyr wnaeth geisio gwrthdroi penderfyniad y cwmni i gau'r ffatri.

Mae'r gân wedi ei selio ar gân Yma o Hyd, Dafydd Iwan.

Mae undeb Unite wedi beirniadu'r penderfyniad a oedd wedi ceisio cael pecyn cymorth gan Lywodraeth y DU.

"Siom a methiant" oedd i'r gweithwyr nad oedd modd achub y gwaith.

Diwrnod tywyll

Roedd 'na ddicter hefyd gan fod rhai o weithwyr y ffatri yn Acrefair wedi teithio i China i hyfforddi gweithwyr a fydd nawr yn cymryd eu swyddi.

Cafodd deiseb ei sefydlu ar wefan Downing Street ac fe wnaeth gwraig un o'r gweithwyr gychwyn tudalen Facebook i gadw'r ffatri ar agor.

Fe ofynnwyd am ymateb gan undeb Unite.

Dywedodd Arwel Gwyn Jones, Maer Wrecsam, fu'n dysgu yn Acrefair am sawl blwyddyn bod hyn yn "ergyd sylweddol" ond bod y cyngor yn gwneud popeth posib.

"Roedd 'na sawl cyfle, yn enwedig wrth i Air Products ddatblygu, roedden nhw'n cynnig sgil arbennig," meddai wrth gyfeirio at hanes y ffatri.

"Mae'n un o'r diwydiannau mwya ola yn yr ardal.

"Mae'n ddiwrnod tywyll iawn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific