British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2009, 18:57 GMT
Canolfan Hamdden Lido Afan i'w ailadeiladu

Injan dān tu allan i Lido Afan
Mae'r tān wedi gwneud difrod sylweddol i'r ganolfan

Mae 'na addewid y bydd canolfan hamdden gafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân yn cael ei ailadeiladu neu yn cael ei ddisodli.

Bu dros 100 o ddiffoddwyr tân ac 17 injan dân yn taclo'r fflamau yn Lido Afan yn Aberafan nos Fercher.

Cafodd cyfarfod brys ei gynnal ddydd Iau i drafod y dyfodol.

Ond mae'r adeilad yn dal yn rhy beryglus i ymchwilwyr ac arbenigwyr fynd i mewn i archwilio'r difrod.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dweud y bydd 'na ganolfan o fath ar gael yn y dyfodol.

Unwaith y bydd yr adeilad yn saff fe fydd Heddlu De Cymru a'r gwasanaeth tân yn cychwyn ymchwiliad.

Dim anafiadau

Achoswyd difrod helaeth i'r pwll nofio yn yr adeilad.

Roedd dau o bobl yno ar y pryd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 5pm ddydd Mercher a bu'n rhaid i bobl sy'n byw ger y ganolfan symud o'u cartrefi.

Y mwg yn codi o'r adeilad
Y mwg yn codi o'r adeilad

Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Bu Ysgol Gynradd Tywyn gerllaw ar gau ddydd Iau.

"O'r tu allan dydi hi ddim yn edrych fel bod 'na lawer o ddifrod ond mae'r difrod mwya i'r to," meddai Richard Fry o'r gwasanaeth tân.

"Mae'r difrod mwya i ardal y pwll nofio gyda'r to wedi syrthio i'r pwll."

Fe gafodd y safle ei agor yn 1965.

Rheolwr cynta'r adeilad oedd Graham Jenkins, brawd yr actor Richard Burton.

Nid yw'r heddlu yn trin y tân fel un amheus.

Ymysg y cyfleusterau yng nghanolfan hamdden Lido Afan y mae pwll nofio, sba, a neuadd gyngerdd lle cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru sawl tro.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific