British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2009, 14:51 GMT
MMR: Mwy yn cael y brechiad

Brechiad MMR
Mae swyddogion iechyd yn annog rhieni i frechu'u plant

Mae'r defnydd o'r brechiad MMR yng Nghymru yn uwch nag unrhyw adeg yn y 12 mlynedd diwethaf, ond dyw'r targed yn dal heb ei gyrraedd.

Eleni, cafodd 92% o blant y brechiad MMR cyntaf yn ôl y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yng Nghymru.

Er eu bod yn croesawu'r cynnydd, roedden nhw'n pwysleisio nad yw targed o 95% wedi ei gyrraedd.

Ym mis Mai gwelwyd y nifer fwyaf o achosion o'r frech goch yn y DU ers i'r brechiad MMR gael ei gyflwyno.

Bu 400 o blant yn diodde o'r clefyd, gyda 42 angen triniaeth ysbyty.

Mae'r ffigyrau yn galonogol iawn ac yn dangos fod rhieni wedi ymateb i'r newyddion am achosion o'r frech goch ledled Cymru
Richard Roberts, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru

Roedd tua 83% o'r plant yna naill ai ddim wedi derbyn dos MMR o gwbwl, ac 13.5% ond wedi derbyn un dos.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn annog rheini sydd heb frechu'u plant i weithredu.

Roedd y ffigyrau'n dangos fod 86% o blant wedi cael yr ail frechiad MMR, ond unwaith eto y targed yw 95%.

"Mae'r ffigyrau yn galonogol iawn ac yn dangos fod rhieni wedi ymateb i'r newyddion am achosion o'r frech goch ledled Cymru drwy ail feddwl eu penderfyniad i beidio brechu'u plant," meddai Richard Roberts, pennaeth rhaglen brechu clefydau y gwasanaeth iechyd.

"Ond dyw'r nifer yn dal ddim yn ddigon uchel i warantu na fydd achosion pellach o'r frech goch, clwy'r pennau a'r frech Almaenig yng Nghymru, ac mae angen i rieni gofio y gall y clefydau yma i gyd achosi problemau difrifol a hyd yn oed marwolaeth."

Clefydau marwol

Yn y DU, y cyngor yw i blant gael y brechiad cyntaf yn 13 mis oed, a'r ail tua 40 mis oed.

Dywedodd Tony Jewell, prif swyddog meddygol Cymru: "Dwi'n croesawu'r cynnydd mewn graddau brechu MMR yng Nghymru.

"Y brechiad yma yw'r ffordd symlaf i amddiffyn pobl rhag y clefyd marwol yma."



HEFYD
Galw am drafodaeth ar frechiad MMR
01 Meh 09 |  Newyddion
Brech goch: 'Dim brechu gorfodol'
16 Meh 09 |  Newyddion
Y frech goch: Atgoffa am frechiad
07 Hyd 08 |  Newyddion
'Angen brechu miloedd o blant'
09 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific