British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2009, 07:35 GMT
Gwobr i ysgol werdd

Ysgol y Graig
Mae'r ysgol yn cynhyrchu hyd at 50% o'i thrydan ei hun

Mae ysgol gynradd newydd ar Ynys Môn lle mae paneli solar a thyrbin gwynt wedi ennill gwobr 'werdd'.

Gall Ysgol y Graig yn Llangefni, a agorodd ym mis Ionawr 2009, gynhyrchu hyd at 50% o'i thrydan ac mae trydan dros ben yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol.

Derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn wobr Cynaladwyedd gan Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru yn wyneb cystadleuaeth gan brosiectau eraill ar draws Cymru.

Mae gan yr ysgol strwythur pren cynaliadwy, tyrbin gwynt a tho 'gwyrdd' sy'n gynefin naturiol i blanhigion a phryfed.

Yn yr ysgol hefyd mae lampau ynni-effeithlon.

Mae'r ysgol o fewn pellter cerdded a seiclo i ran helaeth o'r 300 o blant ac mae llwybr uniongyrchol o'r stad dai cyfagos hefyd yn creu llwybr diogel i'r ysgol ar gyfer y disgyblion.

Dywedodd deilydd portffolio eiddo'r Cyngor, y Cynghorydd William I Hughes:

"Mae'r ysgol yn ddatblygiad pwysig i'r Cyngor, ac roedd cynaladwyedd a'r amgylchedd yn ystyriaeth allweddol i'r prosiect o'r cychwyn cyntaf."

Fe wnaeth y r Cyngor gyda chefnogaeth grant o'r Cynulliad fuddsoddi £4.8 miliwn yn y prosiect.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific