British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2009, 07:02 GMT
Cwmni Waitrose yn ariannu cadair academaidd

Prifysgol Aberystwyth
Fe fydd y gadair ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae cwmni Waitrose yn ariannu swydd academaidd, y gyntaf o'i bath yng ngwledydd Prydain.

Fe fydd Cadair Amaethyddiaeth Gynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth yn golygu gwaith ymchwil i helpu sicrhau cyflenwadau bwyd ym Mhrydain am ddegawdau.

Bydd y person sy'n cael ei benodi yn gweithio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sy'n anelu at ddefnyddio gwyddoniaeth i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Heather Jenkins, Cyfarwyddwr Strategaeth Amaethyddol Waitrose: "Mae sefydlu'r gadair yn dangos ein hymroddiad i sicrhau ein cyflenwad bwyd yn y dyfodol - a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r swydd ar flaen y gad wrth ymchwilio i sut y gall amaethyddiaeth gwledydd Prydain gynnig atebion i'r materion hyn."

'Adfywio'

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, cyfarwyddwr y sefydliad: "Rydyn ni'n ymroddedig i adfywio amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain a chefnogi cynaliadwyedd yr economi wledig drwy fagu cysylltiadau rhwng cymunedau ffermio, busnesau ac academyddion.

"Rydyn ni'n awyddus i benodi rhywun o safon ardderchog i'r gadair, rhywun fydd yn chwarae rhan allweddol wrth wireddu'r weledigaeth y mae Waitrose a'r sefydliad yn ei rhannu."

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, is-ganghellor y brifysgol ei fod yn croesawu'r datblygiad.

"Mae'n enghraifft ardderchog o gyfraniad prifysgolion i'r economi ac i ddatblygu polisi.

'Arbenigedd'

"Mae'r ystod eang o arbenigedd sydd gennym yn y gwyddorau tirol yn golygu ein bod yn gallu ymdrin â phynciau o bwys megis sicrhau cyflenwadau bwyd a heriau newid yn yr hinsawdd."

Fe ddechreuodd y sefydliad ym mis Ebrill 2008 yn sgîl uno'r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd â Phrifysgol Aberystwyth.

Mae'n cyflogi 350 o staff a chanddo £25 miliwn o drosiant blynyddol.

Hon yw'r adran fwyaf ym maes y gwyddorau tirol ym Mhrydain.



HEFYD
Hwb o £25m i ganolfan
22 Gorff 09 |  Newyddion
Gwyddonwyr am atal llyngyr
09 Mai 08 |  Newyddion
'Her fawr' i gorff newydd
17 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific