British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2009, 10:50 GMT
Cynghorwyr Wrecsam yn ystyried codi ysgol Gymraeg arall

 Mae mwy o alw am addysg Gymraeg yn y sir
Bydd cynghorwyr yn ystyried codi ysgol newydd

Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i edrych ymhellach ar dri opsiwn er mwyn ateb y galw yn y sir am fwy o addysg gynradd Cymraeg.

Bydd swyddogion addysg nawr yn asesu'r posibilrwydd o godi ysgol newydd yn ardal Gwersyllt, er mwy ateb y galw yng ngogledd y Sir.

Yn ôl yr opsiwn yma byddai'r ysgol yn darparu ar gyfer 210 o blant. Byddai lle hefyd i ysgol feithrin gyda 30 o blant.

Opsiwn arall yw ehangu Ysgol Plas Coch yn Wrecsam i gynnig lle i 420 o blant.

Mae'r ysgol yma sydd â lle ar gyfer 200 ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer plant gogledd y sir.

Ymgynghoriad

Y trydydd opsiwn fydd yn cael ei ystyried yw codi ysgol newydd yng Ngwersyll ar gyfer 210 o blant ac ehangu Plas Coch er gyfer 315.

Dydd Mawrth cytunodd Bwrdd Gweithredol Wrecsam i ymchwilio ymhellach i argymhellion swyddogion addysg y sir.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys edrych ar sefyllfa Ysgol Hooson yn Rhosllannerchrugog, ar angen am fwy o lefydd yno.

Eisoes mae swyddogion addysg wedi cynnal ymgynghoriad gyda rheini'r sir.

Yn ôl y swyddogion daeth i'r amlwg fod yna fwy o alw nac o lefydd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd Gwersyllt a Brynhyfryd.

Mae disgwyl i'r swyddogion baratoi adroddiad terfynol erbyn mis Ebrill 2010.

Dywedodd Swyddog Addysg y sir, John Davies, y bydd yn rhaid penderfynu ar gynllun ac yna gwneud cais i Lywodraeth y Cynulliad er mwyn ariannu'r prosiect.

Mae 'na bum ysgol cyfrwng Cymraeg cynradd yn y sir.

Mae 'na ddwy ysgol arall, yn Nyffryn Ceiriog, lle mae'r Gymraeg yn cael ei thrin fel iaith gyntaf y plant - ysgolion Categori A.



HEFYD
Addysg Gymraeg: Dyblu gwariant
12 Mai 09 |  Newyddion
Addysg Gymraeg: 'Pryder difrifol'
17 Ion 09 |  Newyddion
O blaid codi ysgol £5.1m
31 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific