British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Rhagfyr 2009, 15:28 GMT
Cynghorwyr o blaid cynllun trin gwastraff

Bwyd
Ymgyrchwyr: 'Oes angen safle mor fawr'?

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cais i godi canolfan trin gwastraff bwyd ym Mona, Ynys Môn.

Y bleidlais oedd 6-3.

Fe fydd y ganolfan bionwy yn storio a phrosesu 25,000 o dunelli o fwyd a gwastraff amaethyddol.

Eisoes mae ymgyrchwyr wedi dweud y bydd y ganolfan yn "rhy fawr" ac yn poeni y bydd cynnyrch lladd-dai yn cael ei anfon yno.

Roedd yr argymhelliad gerbron cynghorwyr yn cynnwys 20 o amodau, gan gynnwys y math o wastraff sy'n cael ei drin, ystyriaethau amgylcheddol, hynny yw draeniad y tir a charthffosiaeth.

Cwmni Anglesey Ecoparc Môn sydd wedi gwneud y cais.

Biowrtaith

Fe glywodd cynghorwyr y byddai'r gwastraff yn cael ei gymysgu cyn iddo gael ei roi mewn tanciau treulio.

Wedyn fe fydd nwy methan yn cael ei ddefnyddio a gweddillion y gwastraff yn troi'n fiowrtaith.

Cyn y cyfarfod roedd Glynwen Hughes, sy'n byw 150 metr o safle'r gwaith, wedi dweud ei bod yn anhapus iawn.

"A oes wir angen safle mor fawr ar Ynys Môn?

"Mi fyddwn ni'n trin gwastraff pobl o bob man, ... gan gynnwys gwaed a pherfedd (o'r lladd-dai).

"Rydan ni wedi cael clywed y bydd y gwastraff yn 60% o'r gwastraff fydd yn cael ei drin yma."



HEFYD
Ffatri i drin gwastraff bwyd?
14 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific