British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Rhagfyr 2009, 13:45 GMT
Carwyn Jones yng nghynhadledd newid hinsawdd

Carwyn Jones
Llywodraeth y Cynulliad wedi addo gostwng allyriadau

Mae Prif Weinidog Cymru ar ei daith dramor gynta, yng Nghopenhagen yng nghynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Fe ddywedodd Carwyn Jones fod her yn wynebu gwledydd mawr a bach.

Eisoes mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydd yn gostwng allyriadau o 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen.

"Maen nhw (China ac America) yn gorfod gwneud cyfraniad llawer mwy na ni," meddai.

"Dyma pan dwi'n mynd i Gopenhagen - er mwyn i bobl Cymru gael gwybod beth sy'n mynd ymlaen."

Mae'n annerch swyddogion y Cenhedloedd Unedig mewn derbyniad ar gyfer Arnold Schwarzeneger, Llywodraethwr California.

'Gobaith'

"Gyda'n gilydd gallwn ni weithredu nawr er mwyn cael unrhyw obaith o leihau'r difrod.

"Rhaid i ni annog pobol i newid eu ffordd o fyw ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n her na all unrhyw wlad ei hanwybyddu a dwi wedi ymrwymo i hyn.

"Efallai bod Cymru yn genedl fach ond mae dyletwydd arnon ni i arwain drwy esiampl."

Dydd Sul addawodd unwaith eto wario mwy ar addysg yng Nghymru.

Dywedodd fod cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn wynebu her wirioneddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Yn ystod y frwydr am arweinyddiaeth Llafur roedd Mr Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr, wedi dweud mai addysg oedd un o'i flaenoriaethau

'Yr un lefel'

"Dwi eisiau gwneud yn siwr bod yr arian yn cael ei neilltuo er mwyn sicrhau ein bod yn gwario mwy o arian ar bob plentyn - a bod ar yr un lefel â Lloegr," meddai.

"Dwi wedi gwneud addewid y byddwn ni o 2011 ymlaen yn cynyddu'r gyllideb addysg o 1% bob blwyddyn, hynnyw 1% yn fwy na'r hyn ddaw o San Steffan."

Mae wedi cyfadde y bydd 'na bwysau ar iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf.



HEFYD
Jones: 'Modd ennill refferendwm'
11 Rhag 09 |  Newyddion
Enwi cabinet newydd y llywodraeth
10 Rhag 09 |  Newyddion
Carwyn Jones yn tyngu llw
10 Rhag 09 |  Newyddion
Enwebu Carwyn fel Prif Weinidog
09 Rhag 09 |  Newyddion
Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth
01 Rhag 09 |  Newyddion
Cyfreithiwr yn cyrraedd y brig
01 Rhag 09 |  Newyddion
Pwy ydi Carwyn Jones?
02 Rhag 09 |  Newyddion
Rhodri'n ildio'r awenau
08 Rhag 09 |  Newyddion
Portread o Rhodri Morgan
07 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific