Gall diffodd y golau arbed £67,000
|
Mae cynghorwyr sir wedi penderfynu diffodd traean o oleuadau stryd am hyd at bum awr y nos er mwyn ceisio arbed arian. Bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynodd o blaid cynllun sy'n golygu diffodd goleuadau mewn ardaloedd lle mae tai rhwng 12.30am a 5.30am - a thraean goleuadau ar briffyrdd. Eisoes mae cynghorwyr wedi cael clywed y gallai diffodd 6,000 o oleuadau arbed £67,000. Fe allai'r broses o weithredu'r cynllun ddechrau yn y flwyddyn newydd. Fydd y cynllun ddim yn effeithio ar ardaloedd lle mae camerâu cylch cyfyng, croesfannau, cylchfannau, goleuadau traffig, tai gwarchod a mesurau lleihau traffig. 370 tunnell Yn ôl y cyngor, fe fyddai'r cynllun yn cwtogi ôl-troed carbon o 370 tunnell yn y flwyddyn gyntaf. Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, cadeirydd y grŵp sydd wedi bod yn ystyried yr opsiwn, na fyddai'r rhan fwyaf o drigolion "hyd yn oed yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth". "Rydyn ni wedi trafod hyn gyda nifer o bobl, gan gynnwys y gwasanaethau brys. "Mae mwyafrif y trigolion o blaid y cynllun. "Wrth gwrs, mae 'na rai sy'n poeni am dor-cyfraith a diogelwch ond dyna pam yr ydym yn trafod gyda'r heddlu," ychwanegodd. Mae 70% o bobl yn cefnogi'r cynlluniau ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus. Arbed costau Sir Gaerfyrddin yw'r awdurdod diweddara yng Nghymru o blaid diffodd goleuadau stryd er mwyn arbed costau ynni. Does dim disgwyl i'r cynllun cyfan orffen am hyd at 18 mis. Mae rhai trefi a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin eisoes wedi cyflwyno cynlluniau tebyg. Mae Cyngor Sir y Fflint yn arbrofi â goleuadau stryd sy'n pylu'n awtomatig ar ôl hanner nos a chynnig golau gwyn yn lle'r golau melyn arferol.
|