British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2009, 15:09 GMT
Gobaith am 450 o swyddi mewn tref

Darlun digidol o'r datblygiad
Darlun digidol o'r datblygiad

Gallai hyd at 450 o swyddi newydd gael eu creu mewn swyddfa a warws ddosbarthu yng Nghaergybi.

Mae'r datblygwr Conygar hefyd y tu ôl i gynllun, gyda chwmni fferi Stena Line, i ddatblygu ardal glan môr y dref.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod wedi derbyn y cais cynllunio ar gyfer y 120 erw ym Mharc Cybi, ac y bydd cynghorwyr yn ystyried y cais yng ngwanwyn 2010.

Ychwanegodd bod denu swyddi i Gaergybi yn flaenoriaeth.

'Catalydd'

Byddai ail gynllun Conygar ar gyfer datblygiad hamdden, manwerthu a thai ar lan môr.

Dywedodd Wyn Parry, rheolwr porthladd cwmni Stena Line: "Byddai hyn yn helpu i ddenu nwyddau i'r porthladd a byddai'r cyfleusterau ychwanegol yn golygu mwy o swyddi yn cael eu creu yn lleol.

"Gallai fod yn gatalydd ar gyfer Parc Cybi ac arwain at ddatblygiadau eraill".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific