British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2009, 18:26 GMT
Cartref newydd i hen orsaf rheilffordd

Gorsaf Rhaglan
Mae hen orsaf Rhaglan wedi bod eiddo'r cyngor ers blynyddoedd

Fe fyddgorsaf reilffordd Fictorianaidd sydd wedi ei chau ers 50 mlynedd yn cael cartre newydd mewn amgueddfa.

Mae cynghorwyr Sir Fynwy am weld platfform gorsaf Rhaglan yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Roedd yr orsaf ar y lein rhwng Pont y pŵl a Coleford wnaeth agor yn 1856.

Fe gafodd yr oraf ei chau 99 mlynedd yn ddiweddarach.

Dydd Mercher fe wnaeth cynghorwyr benderfynu o blaid cynnig yr adeiald i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Dywed yr Amgueddfa eu bod yn ystyried y cais.

Dywedodd y cynghorydd Bob Greenland, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy, eu bod yn awyddus i warchod cyflwr yr orsaf.

"Dyma pam rydym yn ystyried ei gyflwyno fel rhodd i bobl Cymru.

"Allwn ni fel cyngor ddim fforddio ei adfer ond ar ôl dweud hynny dydi hyn ddim yn ddewis hawdd."

Mae'r orsaf yn un cyffredin o ran maint, yn debyg i nifer o hen orsafoedd led led Cymru.

Dywedodd Gerallt Nash o Sain Ffagan y bydden nhw'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cais.

Ychwanegodd Mr Greenland y byddai'r cyngor yn fodlon cydweithio gyda Sain Ffagan dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau llwyddiant cynllun o'r fath.

Roedd cynghorwyr yn penderfynu a ydyn nhw am gynnig yr orsaf i'r amgueddfa mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ei ddefnyddio fel safle cynnal a chadw.

Prif waith yr oraf oedd cludo mwyn haearn o Sir Gaerloyw i ffwrnesi yn Nant-y-glo.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific