British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2009, 13:44 GMT
Carwyn Jones yn tyngu llw fel Prif Weinidog

Mr Ustus Nigel Davis a Carwyn Jones
Carwyn Jones yn tyngu llw yng nghwmni'r barnwr Mr Ustus Nigel Davis

Mae Carwyn Jones yn wynebu'r her o ddewis aelodau ei gabinet ar ôl tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru ddydd Iau.

Cafodd seremoni ffurfiol o dan arweiniad barnwr Mr Ustus Nigel Davis ei chynnal yn swyddfa Mr Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Dros y dyddiau nesaf y mae disgwyl cyhoeddiad am ei gabinet ar ôl iddo gyflwyno'r enwau i'r Frenhines.

Cafodd Mr Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr, ei enwebu yn y Cynulliad Cenedlaethol gan ei ragflaenydd Rhodri Morgan ddydd Mercher.

Daeth hyn ar ôl ymddiswyddiad swyddogol Mr Morgan ddydd Mawrth ac ar ôl i Mr Jones gael ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru'r wythnos diwethaf.

Ad-drefnu

Mae 'na sïon bod Mr Jones yn mynd i ad-drefnu'r cabinet yn hytrach na newid ambell i weinidog.

Credir y bydd rheolwr ei ymgyrch, Leighton Andrews, yn cael ei wobrwyo gyda swydd.

Enwau arall sy'n cael eu crybwyll ydi AC Wrecsam Lesley Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd John Griffiths, Prif Chwip y blaid, Carl Sergeant ac aelod Gorllewin a Chanolbarth Cymru Alun Davies.

Ymhlith y wynebau all adael y cabinet y mae'r gweinidog addysg Jane Hutt, y gweinidog cyllid Andrew Davies a'r gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a llywodraeth leol Brian Gibbons.

Fe fydd Mr Davies a Mr Gibbons yn gadael y Cynulliad yn yr etholiad nesaf yn 2011.



HEFYD
Enwebu Carwyn fel Prif Weiniodog
09 Rhag 09 |  Newyddion
Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth
01 Rhag 09 |  Newyddion
Cyfreithiwr yn cyrraedd y brig
01 Rhag 09 |  Newyddion
Trefn breifat i ddewis arweinydd
01 Rhag 09 |  Newyddion
Pwy ydi Carwyn Jones?
02 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific