British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2009, 14:23 GMT
Actores wedi marw drwy anffawd

Stephanie Parker
Cychwynnodd Stephanie Parker actio yn 15 oed

Fe wnaeth actores ifanc oedd yn ymddangos yng ngyfres Belonging BBC Cymru grogi ei hun tra yr oedd yn diodde o iselder, clywodd cwest yn Aberdâr.

Dywedodd y crwner Peter Maddox, bod yr hyn wnaeth Stephanie Parker, 22 oed, o Bontypridd, o bosib wedi bod yn "alwad am gymorth" yn hytrach nag yn ymdrech i ladd ei hun.

Bu'n diodde cyfnodau o iselder wnaeth gychwyn ar ôl iddi ddechrau cael ei bwlio yn yr ysgol, clywodd y cwest.

Cafodd cwest o farwolaeth drwy anffawd ei gofnodi.

Roedd yr actores yn chwarae rhan Stacey Weaver yn y gyfres.

'Proffesiwn rhan-amser'

Dywedodd ei mam, Fiona, wrth y llys bod ei merch yn cael cyfnodau da a drwg.

"Roedd hi'n wyllt pan nad oedd yn cymryd ei chyffuriau.

"Roedd yn gwylltio a doedd hi ddim yn gwrando ar neb ac yn gwbl afresymol."

Eglurodd Mrs Parker bod ei merch wedi cychwyn actrio yn 15 oed pan gafodd ran yn y gyfres deledu.

"Roedd yn broffesiwn rhan amser," meddai.

"Roedd hi wedi ceisio gweithio mewn swyddfa ond roedd hi wedi gadael o fewn wythnosau am ei bod yn ddifals."

Fe ddaeth cyfres Belonging i ben yn gynharach eleni.

Clywodd y cwest bod lefel yr alcohol yng nghorff yr actores ychydig yn fwy na'r lefel gyfreithiol i yrru pan gafodd ei chanfod mewn cae ger ei chartref.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd dywedodd Mr Maddox nad oedd wedi cael ei ddarbwyllo bod Ms Parker wedi bwriadu lladd ei hun.

"Mae'n bosib ei bod eisiau cymorth ac nad oedd hi'n deall yn llawn ganlyniadau'r hyn a wnaeth."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific