British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2009, 15:26 GMT
Carwyn Jones yn cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog

Carwyn Jones yn cael ei enwebu yn Brif Weinidog

Cafodd arweinydd newydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, ei enwebu gan Aelodau'r Cynulliad i fod yn Brif Weinidog nesa Cymru.

Carwyn Jones
Cafodd Carwyn Jones fuddugoliaeth ysgubol

Fe fydd Mr Jones, AC Pen-y-Bont ar Ogwr, yn olynu Rhodri Morgan wnaeth ymddiswyddo yn ffurfiol fel Prif Weinidog ddydd Mawrth.

Mr Morgan, a fu yn Brif Weinidog am bron i 10 mlynedd, wnaeth enwebu Mr Jones.

Fe wnaeth ei ymddiswyddiad, drwy e-bost, gael ei dderbyn yn ffurfiol gan y Frenhines rai oriau cyn i'r ACau enwebu Mr Jones.

Bydd y Frenhines yn cadarnhau'r apwyntiad ac mae disgwyl i Mr Jones dyngu llw ddydd Iau.

Mwy ar addysg

Fe wnaeth Mr Jones, 42 oed, gael ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru yn gynharach yn y mis.

Roedd wedi ennill mwyafrif yn y bleidlais rhyngddo ac Edwina Hart a Huw Lewis.

Ers i Mr Jones gael ei ethol yn AC yn 1999 mae o wedi bod yn Weinidog Amaeth a Chwnsler Cyffredinol yng ngweinyddiaeth Mr Morgan.

Mae o wedi addo gwario mwy ar addysg gan ei ddisgrifio fel yr ateb i dlodi.

Ond fe wnaeth gyfadde bod cyfnod economaidd anodd i ddod ond y byddai Cymru mewn lle delfrydol unwaith y bydd yr argyfwng ar ben.

Mae'n dymuno gweld y rhwyg rhwng gogledd Cymru a gorllewin Cymru gyda de Cymru yn cael ei ddileu.

Fe wnaeth Mr Jones hefyd addo anrhydeddu cytundeb Cymru'n Un arweiniodd at lywodraeth Glymblaid Llafur gyda Plaid Cymru.

Talodd Mr Jones deyrnged i'w ragflaenydd gan ddweud bod 'na dasg anodd o'i flaen i ddilyn dyn fel Rhodri Morgan.

"Bydd yn cymryd peth amser i feddwl am Rhodri ar y meinciau cefn.

"Dwi'n gwybod y bydd Rhodri yn dal i chwarae rôl allweddol yn y Cynulliad rhwng nawr a'r etholiadau a thu hwnt i hynny."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Nick Bourne, nad oedd yn amau "addewidion gwleidyddol a phersonol Carwyn Jones i'w swydd newydd ac i wasanaethu Cymru".

Wrth i Mr Morgan ymddiswyddo yn swyddogol mae nifer o ymgynghorwyr arbennig wedi peidio â dal eu swyddogaeth.

Ond mae gweinidogion Cymru yn parhau yn eu gwaith tan y bydd Mr Jones yn cyhoeddi ei gabinet newydd, dydd Iau neu ddydd Gwener.



HEFYD
Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth
01 Rhag 09 |  Newyddion
Cyfreithiwr yn cyrraedd y brig
01 Rhag 09 |  Newyddion
Trefn breifat i ddewis arweinydd
01 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific