British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2009, 11:30 GMT
AC Plaid yn ymuno 'r Ceidwadwyr

Cafodd Mohammad Asghar ei ethol yn 2007
Mohammad Asghar

Mae'r AC Mohammad Asghar wedi gadael Plaid Cymru i ymuno â'r Torïaid.

Gwnaed y cyhoeddiad gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Nick Bourne a Cheryl Gillan, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn San Steffan.

Dywedodd Mr Asghar ei fod yn credu yn y "teulu brenhinol a'r Deyrnas Unedig."

"Am beth amser rwyf wedi teimlo nad wyf yn gwbl gyfforddus gyda syniadau a pholisïau Plaid Cymru.

"Mae fy ngwleidyddiaeth, sef eisiau Cymru fwy cryf o fewn Prydain sy'n llwyddiannus, yn debyg i wleidyddiaeth Mr Bourne".

Yn ôl Mr Bourne roedd hi'n "ddiwrnod bendigedig i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru."

Aelod rhanbarthol

Cafodd Mr Mohammad Asghar ei ethol fel aelod rhanbarthol Dwyrain De Cymru yn 2007.

Ef oedd yr AC cynta o leafrif ethnig i gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mr Asghar yw'r AC cyntaf i newid ei blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Nawr mae gan y Torïaid 13 o aelodau yn y Cynulliad a Phlaid Cymru 14.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ei fod yn siomedig gyda'r penderfyniad "ac yn synnu i ni glywed y peth yn gyntaf gan aelodau'r wasg."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y dylai Mr Asghar ymddiswyddo - "gan i bobl y rhanbarth fwrw eu pleidlais dros aelod o Blaid Cymru ac nid aelod o'r Blaid Geidwadol."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific