Roedd degau ar filoedd o bobl yn Llundain
|
Mae cannoedd o bobl o Gymru wedi ymuno mewn gorymdaith ddydd Sadwrn sy'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar newid hinsawdd. Roedd miloedd o bobl yn Llundain ar gyfer protest cyn i uwchgynhadledd ar newid hinsawdd gychwyn ddydd Llun yn Copenhagen. Cafodd bysiau eu trefnu i gludo protestwyr o Ynys Môn, Machynlleth, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd i Lundain. "Byddwn yn galw ar Gordon Brown i wneud yn siwr bod Copenhagen yn cyfri," meddai Julian Rosser o ymgyrch Stop Climate Chaos Cymru cyn yr orymdaith. Roedd y brotest, o'r enw The Wave, hefyd yn digwydd yn Glasgow, Belfast a Dulyn. Fel rhan o'r hyn y mae Stop Climate Chaos (SCC) yn ei honni ydi'r brotest fwyaf yn erbyn newid hinsawdd, roedd protestwyr yn gwisgo glas ac yn gorymdeithio o Sgwâr Grosvenor at San Steffan a Big Ben. 30% Mae SCC yn galw ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy uchelgeisiol na'r cynllun presennol i dorri allyriadau o 30% yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y 10 mlynedd nesaf, sydd, yn ôl yr ymgyrch, "yn annigonol". "Byddwn yn galw ar Gordon Brown i wneud yn siwr bod Copenhagen yn cyfri trwy ymrwymo gwledydd cyfoethog i leihau eu hallyriadau o leiaf 40% yn y 10 mlynedd nesaf trwy, o'r diwedd, rhoi'r math cywir o arian ar y bwrdd i helpu gwledydd tlawd," meddai Mr Rosser.
Roedd Dai y Ddraig Las, a wnaed gan Russell Kirk o Rhaeadr, yn y brotest
|
Yn ôl Chris Johnes, pennaeth Oxfam Cymru: "Rydym yn galw ar lywodraeth y DU i ymladd dros gytundeb cynhwysfawr, teg sy'n ymrwymo yn Copenhagen." Dywedodd Ruth Davis, ar ran y Gymdeithas Gwarchod Adar RSPB (RSPB): "Gallai hyd at hanner rhywogaethau'r byd fod mewn perygl o ddiflannu os yw tymheredd y byd yn codi o bum radd. "Mae'r brotest yn ffordd o ddangos i'n harweinwyr ein bod yn poeni am newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yr ydym i gyd yn dibynnu arno".
|