British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2009, 11:24 GMT
Hartson yn cael newyddion da ac yn gwella

John Hartson
Dywed John Hartson ei fod wedi cael newyddion da

Mae'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol, John Hartson, wedi dweud ei fod wedi cael newyddion da.

Ym mis Gorffennaf cafodd cyn-chwaraewr Arsenal a Celtic wybod ei fod yn diodde o ganser y ceilliau oedd wedi lledu i'w ymennydd a'i ysgyfaint.

Dydd Gwener cyhoeddwyd bod Hartson, 34 oed, yn gwella a bod y canser yn lleihau.

Dywedodd fod clywed ei fod yn ennill y frwydr yn erbyn y clefyd ar "un o'r diwrnodau gorau ers peth amser".

Roedd wedi cael llawdriniaeth frys ar ei ymennydd yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Ar ôl cael ei driniaeth gyntaf o gemotherapi yn Ysbyty Singleton Abertawe cafodd ei ryddhau o'r ysbyty ym mis Awst.

"Rydyn ni wedi bod drwy gymaint," meddai Hartson.

Triniaeth

"Mae cael y newyddion hyn oddi wrth y meddygon yn wych.

"Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd amser i ysgrifennu, ffonio neu adael negeseuon ar-lein.

"Mae'r gefnogaeth honno a'r gefnogaeth sydd 'na o hyd yn fy helpu i frwydro ac yn nhelp mawr i Sarah a'r plant.

"Dwi ddim wedi trechu'r clefyd eto ond hwn yw'r diwrnod gorau i fi ers sbel."

Dywedodd ei asiant, Mark Brodie: "Mae angen llawdriniaeth fawr ar ei ysgyfaint a'i ymennydd yn ystod y misoedd nesaf.

"Ond mae'r newyddion hyn yn hwb enfawrl."

Ymhlith y negeseuon roedd un oddi wrth y beiciwr Lance Armstrong oedd wedi diodde o ganser y ceilliau ei hun.



HEFYD
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"
12 Awst 09 |  Newyddion
John Hartson yn gadael ysbyty
11 Awst 09 |  Newyddion
Hartson yn dechrau cemotherapi
04 Awst 09 |  Newyddion
John Hartson 'yn gwella'
27 Gorff 09 |  Newyddion
Negeseuon i John Hartson
16 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson: Yn ddifrifol ond sefydlog
16 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson: Canser yn lledu i'w ysgyfaint
15 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific