British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2009, 12:24 GMT
Bygythiad i fywyd môr Cymru

Y chwistrell fôr garped

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ceisio difa'r chwistrell for garped cyn iddo allu gwneud difrod i fywyd mor

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ceisio dinistrio creadur allai fod yn fygythiad i fywyd môr Cymru gyfan.

Ymddangosodd y chwistrell fôr garped yn harbwr Caergybi yn ddiweddar.

Mae'r creadur o Siapan yn wreiddiol yn gallu niweidio bywyd môr o bob math, ac mae'r cyngor yn credu y gallai fygwth meysydd cregyn gleision yn Y Fenai cyn hir gan ei fod yn lledaenu'n gyflym.

Credir fod y creadur wedi cyrraedd Caergybi ar ôl glynu at waelodion llongau ddaeth i'r harbwr yno.

Iwerddon

Gan fod y creadur eisoes wedi ymsefydlu ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, mae'n debyg mai o'r fan honno y daeth yma.

Dros fisoedd y gaeaf, bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn gosod bagiau anferth ar holl strwythurau tanddwr yr harbwr, gan y bydd hyn yn atal ocsigen i'r creadur gan ei fygu a'i ladd.

Y nod yw diddymu'r chwistrell fôr garped cyn y gwanwyn gan ei fod yn lledaenu'n gyflymach mewn tywydd cynhesach.

Rohan Holt
Os lwyddwn ni i gael gwared â'r chwistrell fôr, fe fyddwn ni'n siwr o weithio'n galed i sicrhau na fydd yn dychwelyd
Rohan Holt
Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Chwistrell fôr sbyngaidd yw Didemnum vexillium sy'n lliw mwstard, melyn/oren golau neu lwydfelyn.

Mae'n teimlo fel lledr ac yn debyg i smotiau golau fflat neu gwyr yn diferu oddi ar strwythurau artiffisial sy'n union o dan wyneb y dŵr.

Mae ganddi wythiennau tebyg i ddail, yn ogystal â thyllau mân drosti.

Os fydd gwaith y Cyngor Cefn Gwlad yn llwyddiannus, fe allen nhw gynghori ardaloedd eraill o Brydain ar sut i gael gwared â'r creadur mewn mannau eraill.

"Os lwyddwn ni i gael gwared â'r chwistrell fôr, fe fyddwn ni'n siwr o weithio'n galed i sicrhau na fydd yn dychwelyd," meddai Rohan Holt, biolegydd morol y cyngor.

Heb ei drin fe allai'r chwistrell symud yn gyflym o gwmpas Ynys Môn, ac yn y pen draw bod yn fygythiad i'r diwydiant cregyn gleision yn Y Fenai.

Dydi hi ddim yn bosib crafu'r chwistrell i ffwrdd, gan y gallai tameidiau bach o'r creadur achosi iddo ymledu ymhellach.

Mae'r cyngor yn cydweithio gydag awdurdod harbwr Caergybi er mwyn cynghori perchnogion cychod sut i beidio cynorthwyo'r chwistrell i ymledu.



HEFYD
Cregyn Gleision: Cyngor i apelio
19 Mai 08 |  Newyddion
Lansio llong i ffermio cregyn gleision
27 Meh 03 |  Newyddion
Cau gwely cocos ar ôl profion
20 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific