British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009, 16:38 GMT
Menyw yn 'caru' dyn a'i lladdodd

Karen McGraw
Roedd gan Karen McGraw bedwar o blant a thri o wyrion

Clywodd achos llofruddiaeth fod menyw wedi dweud wrth ddyn ei bod yn ei garu wrth iddo ei thrywanu deirgwaith.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Karen McGraw o Gei Cona, Sir Fflint, wedi gofyn iddo pam yr oedd yn ei thrywanu a'i bod yn ei garu, ond dywedodd yntau ei fod yn rhy hwyr.

Mae Trevor Ferguson, 49, o Fanceinion yn cyfaddef iddo ladd ond yn gwadu llofruddiaeth, gan ddweud iddo gael ei bryfocio.

Bu farw Ms McGraw, mam i bedwar a nain, yng Ngorffennaf.

Holwyd Ferguson gan Patrick Harrington QC ar ran yr amddiffyn a oedd yn sylweddoli bod defnyddio cyllell torri pysgod o'r fath yn debygol o greu anaf difrifol iawn.

Atebodd Ferguson: "Na, doedd gen i ddim meddyliau yn fy mhen.

"Mae mor anodd i esbonio. Dydw i ddim yn gallu esbonio'r peth i unrhyw un.

"Byddai'n well gen i pe bawn i ddim wedi gwneud hynny.

"Byddai'n well gen i petawn wedi gyrru i ffwrdd y noson honno".

Trywanu

Eisoes clywodd y rheithgor honiadau fod Mr Ferguson wedi ei lladd ar ôl colli ei dymer ar ôl iddi ddweud fod eu perthynas ar ben.

Roedd yr heddlu wedi ymweld â'i chartref ar ddau achlysur y diwrnod cyn iddi farw, mewn ymateb i alwadau.

Clywodd y rheithgor iddi gael ei thrywanu'r diwrnod iddi newid ei statws o 'mewn perthynas' i 'sengl' ar Facebook.

Yn ôl Andrew Thomas QC ar ran yr erlyniad fe wnaeth y diffynnydd ei lladd oherwydd iddo golli ei dymer.

"Mae hwn yn achos trist o ddynes yn ceisio ymdopi gyda thrais yn y cartref."

Clywodd y llys iddi gael ei thrywanu dair gwaith.

Mae Mr Ferguson yn cyfaddef iddo ladd Ms McGraw, ond mae'n gwadu llofruddio gan ddweud ei fod wedi ei brofocio ac nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Llys: Gwrthod mynd i loches
27 Tach 09 |  Newyddion
Llys: Diffynnydd yn 'dial'
25 Tach 09 |  Newyddion
Cyhuddo dyn o lofruddio partner
27 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific