British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009, 07:07 GMT
Disgwyl cyhoeddi enw arweinydd newydd Llafur Cymru

Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis
Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis ydi'r tri sy'n gobeithio olynu Rhodri Morgan

Bydd enw olynydd Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Tri ymgeisydd oedd yna, Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis.

Fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi tua 5.30pm yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.

Yr wythnos nesaf mae disgwyl i'r enillydd wynebu pleidlais arall, yn y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddewis neu ei dewis i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Y rhai oedd yn gymwys i bleidleisio oedd aelodau Llafur Cymru, mudiadau cysylltiedig fel undebau llafur, Aelodau Seneddol Llafur Cymru, Aelodau Llafur y Cynulliad a'r Aelod Senedd Ewrop.

Bydd yr enillydd yn cychwyn ar ei waith neu ar ei gwaith yn swyddogol ar ôl cymryd yr awenau gan Rhodri Morgan yr wythnos nesaf.

Cychwynnodd y ras ddau fis yn swyddogol pan wnaeth Mr Morgan gadarnhau ar Hydref 1 ei fod yn gadael, yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mr Morgan sydd wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers mis Chwefror 2000.

Mae'r ymgeisydd Carwyn Jones yn Gwnsler Cyffredinol yng nghabinet Mr Morgan tra bod Edwina Hart yn weinidog iechyd Cymru.

Dydi Huw Lewis ddim yn aelod o'r cabinet presennol.



HEFYD
Trefn breifat i ddewis arweinydd
01 Rhag 09 |  Newyddion
Arweinyddiaeth: Y blychau'n cau
26 Tach 09 |  Newyddion
Llafur: Pwy sy'n cefnogi pwy
22 Hyd 09 |  Newyddion
Lewis yn lansio ei ymgyrch
09 Hyd 09 |  Newyddion
Hart yn lansio ei hymgyrch
15 Hyd 09 |  Newyddion
Carwyn Jones yn y ras
05 Hyd 09 |  Newyddion
Tri ymgeisydd: Pwyso a mesur
15 Hyd 09 |  Newyddion
Olynydd Morgan: Ras yn dechrau
05 Hyd 09 |  Newyddion
Pwy fydd yn olynu Morgan?
02 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific