British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009, 17:05 GMT
Cyngor Gwynedd yn cyflwyno strategaeth i arbed £16m

Cyngor Gwynedd
Y cyngor 'yn parhau i chwilio am ffyrdd mwy effeithiol o weithio'

Mae awdurdod lleol sy'n gorfod gwneud £16 miliwn o arbedion ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf wedi cyflwyno strategaeth i fwrdd y cyngor.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y bwrdd gymeradwyo'r strategaeth, a fydd nawr yn cael ei ystyried gan Weithgor Craffu'r Cyngor ar Ragfyr 3 , ac yna gan Brif Bwyllgor Craffu'r Cyngor ar Ragfyr 8, cyn i'r Cyngor llawn wneud y penderfyniad ar y strategaeth ar Ragfyr 10.

Mae'r swm sy'n wynebu Cyngor Gwynedd yn ychwanegol at y £14.4 miliwn o arbedion maen nhw yn eu gwneud rhwng 2006-07 a 2009-10.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod yn rhaid i bob cyngor "ysgwyddo baich" oherwydd y sefyllfa ariannol.

Dros y chwe mis diwethaf mae gwaith wedi ei wneud i ystyried opsiynau posib ar gyfer arbedion a ddylai gael eu cynnwys yn Strategaeth Arbedion Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfnod 2010/11 - 2012/13.

Mae 'na bryder y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu cwtogi a swyddi'n cael eu colli.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd cynghorwyr Plaid Cymru na fyddan nhw'n cefnogi unrhyw gynigion allai arwain at gau ysgolion meithrin Cymraeg yng Ngwynedd.

Roedd swyddogion y cyngor wedi dweud y gallai cau'r ysgolion meithrin a chynnig llefydd ar gyfer plant tair oed o fewn ysgolion cynradd yn arbed £250,000.

Dros 70 opsiwn

Fel rhan o'r broses mae seminarau wedi cael eu cynnal yng Nghaernarfon a Thrawsfynydd.

Bu cynghorwyr yn ystyried dros 70 o opsiynau ar gyfer arbediadau posib.

"Ni wnaed unrhyw benderfyniadau yn y seminarau hyn, ond roedd yn gyfle i gynghorwyr ystyried yr asesiadau effaith a oedd wedi eu cynhyrchu gan grŵp bychan o gynghorwyr a fu'n astudio'r cynigion yn fanwl," meddai Harry Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd.

"Roedd hefyd yn gyfle i holi penaethiaid gwasanaeth am effaith pob opsiwn ac i gynnig rhagrybudd o addasrwydd y gwahanol gynigion.

"Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd hefyd er mwyn canfod barn sampl o drigolion y sir, sector wirfoddol y sir a staff y Cyngor ar rai o'r cynigion mwyaf anodd.

"Pe bai'r cyngor llawn yn derbyn y cynigion, bydd cyfran yr arbedion y disgwylir o ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol yn sylweddol is o'u cymharu â gwasanaethau eraill y cyngor."

'Asesu effaith'

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor bod ystod o opsiynau wedi eu cyflwyno.

"Does dim dwywaith ein bod yn wynebu'r penderfyniadau anoddaf yn hanes y cyngor.

"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu rwan er mwyn gosod strategaeth arbedion cynhwysfawr a fydd yn lleihau effeithiau diffygion yn y gyllideb ar ein gwasanaethau rheng flaen allweddol."

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad ei bod yn adeg anodd i bawb a'u bod am i gyrff cyhoeddus "chwilio am ffyrdd o arbed arian er mwyn diogelu gwasanaethau".

"Mae 'na lawer o enghreifftiau da yng Nghymru lle mae awdurdodau lleol wedi adolygu eu gwasanaethau ac wedi gwneud toriadau ar fiwrocratiaeth wastraffus sydd yn y pen draw wedi arbed arian a gwella'r gwasanaeth i'r cyhoedd."



HEFYD
'Na' i gau cylchoedd meithrin
24 Tach 09 |  Newyddion
Ysgol yn wynebu colli staff
10 Meh 09 |  Newyddion
Cadeirydd newydd i Gyngor
07 Mai 09 |  Newyddion
Cynghorwyr yn talu arian yn ôl
21 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific