British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009, 17:45 GMT
Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth

carwyn jones
Mae AC Pen-y-bont ar Ogwr yn 42 oed

Carwyn Jones sy wedi ennill y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Yr wythnos nesa mae disgwyl i AC Pen-y-bont ar Ogwr sy'n 42 oed gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog Cymru wedi pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Tua 5.45pm daeth y cyhoeddiad o Ganolfan y Mileniwm Caerdydd fod Mr Jones, y Cwnserler Cyffredinol, wedi sicrhau 51.97% ar y bleidlais cynta.

Fe drechodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, ddaeth yn ail gyda 29.19%

Huw Lewis ( 18.84%), AC Merthyr Tudful a Rhymni, oedd yn drydydd.

Ras yr arweinyddiaeth
Carwyn Jones 51.97%
Edwina Hart 29.19%
Huw Lewis 18.84%

"Rwy ishe fy ngwlad i lwyddo," meddai Mr Jones ar ôl cael cadarnhad o'r bleidlais.

"Rwy ishe gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru, dwi ishe i Gymru ennill drwy'r byd i gyd.

"Dwi'n falch o fod yn Gymro, dwi'n falch o fod yn Brydeiniwr ac wrth gwrs dwi'n falch o fod yn Llafurwr."

'Uno'r blaid'

Yn ôl y Prif Weinidog Rhodri Morgan, roedd y frwydr rhwng y tri ymgeisydd wedi bod yn lân.

"Mae pob un o'r tri rhan o'r blaid Lafur wedi pleidleisio dros Carwyn, felly bydd hyn yn help i uno'r blaid a chael pob rhan y tu cefn iddo."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru a'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones ei fod yn llongyfarch Carwyn Jones ar y bleidlais.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag o er mwyn gweithredu cytundeb Cymru'n Un.

"Fe fyddaf yn cynnal trafodaethau gyda'r arweinydd newydd dros y dyddiau nesa er mwyn sicrhau gweithredu rhaglen Cymru'n Un a pharhad partneriaeth adeiladol wrth lywodraethu. "

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, hefyd yn llongyfarch Mr Jones ar ei fuddugoliaeth.

"Mae'n rhaid mai un o'i flaenoriaethau cynta fydd egluro ei safbwynt yn gynnar yn y flwyddyn newydd ynglŷn ag amseru refferendwm."

70 oed

Cafodd Mr Jones hefyd ei longyfarch gan Cheryl Gillan AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru.

"Fe fyddaf yn gobeithio trefnu cyfarfod gyda Carwyn yn y dyfodol agos pe bai'n cael ei benodi'n Brif Weinidog yr wythnos nesa.

"Rwy'n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn elwa o gydweithio da a chyfathrebu da rhwng y Cynulliad a San Steffan."

Enillodd Mr Jones ym mhob un categori ddydd Mawrth.

Y rhai oedd yn gymwys i bleidleisio oedd aelodau Llafur Cymru, mudiadau cysylltiedig fel undebau llafur, Aelodau Seneddol Llafur Cymru, Aelodau Llafur y Cynulliad a'r Aelod Senedd Ewrop.

Cychwynnodd y ras ddau fis yn swyddogol pan wnaeth Mr Morgan gadarnhau ar Hydref 1 ei fod yn gadael, yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mr Morgan sydd wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers mis Chwefror 2000.



HEFYD
Cyfreithiwr yn cyrraedd y brig
01 Rhag 09 |  Newyddion
Trefn breifat i ddewis arweinydd
01 Rhag 09 |  Newyddion
Olynydd Morgan: Ras yn dechrau
05 Hyd 09 |  Newyddion
Llafur: Pwy sy'n cefnogi pwy
22 Hyd 09 |  Newyddion
'Ie' i lywodraeth glymblaid
08 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific