British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Tachwedd 2009, 15:18 GMT
Protestwyr yn blocio pwerdy

Gweithfa biomas Western Woods
Dechreuodd y brotest fore Llun ym Mhort Talbot

Mae grŵp o brotestwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer dau safle llosgi gwastraff pren yn ne a gogledd Cymru wedi targedu pwerdy llai.

Mae'r heddlu wedi cael eu galw wedi i dri o bobl flocio gât yng ngweithfeydd biomas Western Wood ym Mhort Talbot, a dau arall yn dringo simnai.

Dywed y protestwyr eu bod yn tynnu sylw at y gweithfeydd mwy sydd wedi eu cynllunio ar gyfer Port Talbot a Chaergybi ar Ynys Môn.

Dywedodd Western Woods eu bod yn cymryd gofal i sicrhau eu diogelwch.

Yn ôl y protestwyr maen nhw'n gweithredu ar ran Climate Camp Cymru.

Maen nhw'n gwrthwynebu cynlluniau gorsaf bŵer biomas gwerth £400 miliwn yn agos at Western Woods, sy'n dipyn llai.

Mae'r datblygwyr Prenergy Power wedi cael trwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar gyfer y prosiect y mae'r cwmni'n ei ddweud allai roi pŵer i 500,000 o dai.

Mae'r adeiladwaith i ddechrau flwyddyn nesaf.

Mewnforio

Mae Alwminiwm Môn wedi cyflwyno cais ar wahân i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd ar gyfer gorsaf biomas ger ei brif safle ar yr ynys.

Honna'r protestwyr y byddai'r ddau safle yn mewnforio coed o dramor ac angen miloedd o aceri o dir coediog er mwyn darparu'r tanwydd sglodion pren.

Caiff yr holl bren a ddefnyddir yng ngweithfa Western Wood ei gasglu o Gymru.

Dywedodd y protestwyr eu bod yn bwriadu aros ger y safle am y mwyafrif o'r dydd Llun.

Yn ôl Rob Goodsell ar eu rhan: "Bydd gweithfeydd Port Talbot a Chaergybi angen planhigfeydd biomas arbennig fydd tua hanner maint Cymru.

"Fe allai tir y maint yma fwydo hyd at draean o boblogaeth Prydain.

"Gyda'r byd yn wynebu materion diogelwch bwyd difrifol yn y blynyddoedd sydd i ddod mae hyn yn wallgof."

Dywedodd llefarydd ar ran gweithfa Western Wood bod staff yn cymryd "gofal diogelwch priodol" yn ystod y brotest gan gadarnhau bod y cwmni wedi cysylltu â Heddlu De Cymru.



HEFYD
Trwydded ar gyfer safle
30 Medi 09 |  Newyddion
Cais i greu ffatri biomas
03 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific