British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Tachwedd 2009, 06:57 GMT
Arbrawf carbon yng nghefn gwlad

Mynydd Pumlumon
Gwaith ymchwil: Mynyddoedd y Cambrian, gan gynnwys Pumlumon

Mae mwy na 20 o ffermydd yn un o ardaloedd mwya anghysbell Cymru yn rhan o gynllun lleihau allyriadau carbon.

Bydd gwaith ymchwil yn mesur faint o betrol y mae tractorau yn ei ddefnyddio yn ardal Menter Mynyddoedd y Cambrian ym Mhowys a Cheredigion.

Arbenigwyr o Brifysgol Bangor sy'n monitro'r cynllun ac mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn rhan o'r fenter.

Dywedodd llefarydd y byddai'r prosiect yn asesu'r tir sy'n rhwystro carbon rhag cael ei ollwng i mewn i'r awyr.

Fe allai'r rhain gynnwys coedwigoedd, tir mawn a thir sy ddim yn addas ar gyfer amaeth.

"Rydyn ni'n falch fod ffermwyr yn rhan o'r cynllun," meddai Steven Bradley o'r Cyngor Cefn Gwlad.

"Os gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o rwystro allyriadau a dod o hyd i arbedion ariannol mae'n bosib y gallwn ddilyn yr un patrwm mewn ardaloedd eraill."

Cryfhau

Mae'r fenter eisoes wedi llwyddo i berswadio archfarchnad y Co-op i werthu ei gynnyrch.

Dywedodd Gwern Evans, rheolwr busnes y fenter, fod yr ardal yn ceisio cryfhau ei ddelwedd werdd.

"Fe fyddwn yn defnyddio'r gwaith ymchwil er mwyn dod o hyd i ffyrdd o leihau effaith y carbon ar ardal y Cambrian."

Y sefydliadau eraill sy'n cefnogi'r fenter yw Llywodraeth y Cynulliad, cynghorau sir Ceredigion, Caerfyrddin, Powys - a Thywysog Cymru.



HEFYD
Rhaglen £4m ar newid hinsawdd
27 Tach 09 |  Newyddion
Comisiwn: 'Cymru carbon isel'
12 Tach 09 |  Newyddion
Barn ymgeiswyr ar yr amgylchedd
09 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific