Bydd gwaith y grŵp yn edrych ar newid yn lefel y môr
|
Mae rhaglen pum mlynedd i edrych ar effaith newid hinsawdd yng Nghymru, ar dir, môr ac yn yr atmosffer wedi cychwyn. Fe fydd y rhaglen £4 miliwn, Consortiwm Newid Hinsawdd neu C3W, hefyd yn ystyried newidiadau ar rew a rhewlifoedd a'r effaith gymdeithasol. Bydd bron i 200 o arbenigwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe yn rhan o'r ymchwil. Fe fyddan nhw hefyd yn cynnig gwybodaeth busnes a chyhoeddus i fudiadau fel arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a diwrnodau agored. Mae'r rhaglen wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. 'Ymroi' Dywedodd Yr Athro Phillip Gummett, prif weithredwr y cyngor, bod hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol ymchwil newid hinsawdd Cymru a'r DU ac fe fydd yn helpu C3W a'r sefydliadau i fod yn ganolfannau rhagoriaeth ryngwladol. "Mae'n ychwanegu at fuddsoddiad diweddar arall yng Nghymru o ran ymchwil i ddyfodol carbon isel a chynaliadwyedd amgylcheddol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu polisïau yng Nghymru a thu hwnt." Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jane Hutt, bod newid hinsawdd yn un o'r sialensiau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw. "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymroi i chwarae ei ran i daclo'r newid." Dywedodd bod gan C3W ddau fwriad. "I wella ein dealltwriaeth o achosion, natur, amseru ac effaith newid hinsawdd ar yr amgylchedd yn ogystal â sefydlu Cymru fel awdurdod yn nhermau ymchwil hinsawdd". Eglurodd Yr Athro Noel Lloyd, is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, bod newid hinsawdd yn fater rhyngwladol. Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Merfyn Jones, bod y sefydliad wedi datblygu proffil cryf o ran gwyddoniaeth newid hinsawdd ac y bydd C3W yn adeiladu ar waith ymchwil. Yn ôl Dr David Grant, is-ganghellor Prifysgol Caerdydd eu bod eisoes yn arwain ymchwil ar ynni carbon isel ac y byddai bod yn rhan o C3W yn chwarae rhan allweddol o gyfraniad y brifysgol yn y dyfodol. Ychwanegodd Yr Athro Richard B Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe mai bwriad y consortiwm oedd sefydlu Cymru fel "canolfan ymchwil byd-eang ar newid hinsawdd."
|