British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2009, 07:47 GMT
Coed prin o Fecsico yn blodeuo

Coeden Dahlia
Mae un o'r coed yn 12 troedfedd

Mae dau blanhigyn o Fecsico wedi blodeuo ym Mhowys am y tro cyntaf diolch i dywydd mwyn yr hydref.

Cafodd y coed dahlias eu plannu yng Nghastell Powis ger Y Drenewydd yn 2001 a 2006.

Mae'r coed i fod i flodeuo ym mis Tachwedd a Rhagfyr ond mae tywydd oer rhewllyd yn eu lladd.

Dywedodd y garddwr Adrian Lovett bod hyn yn enghraifft arall o'r modd cynnil mae'r hinsawdd a'n tirwedd yn newid.

Petalau porffor

Ychwanegodd Mr Lovett bod tywydd yr hydref wedi cynnig "yr amgylchiadau perffaith" i'r coed flaguro.

Mae'r goeden hynaf yn 12 troedfedd ac mae'n cynnig "sblash o liw" yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n rhedeg y castell.

"Mae'r tywydd yn ystod yr hydref wedi bod yn berffaith er mwyn i'r coed flaguro," meddai Mr Lovett.

"Mae nifer o blanhigion yn blodeuo yn ystod y gaeaf nawr, arwydd o'r newid hinsawdd.

"Er bod hyn yn anghyffredin i weld coed dahlia yn blodeuo mewn ardaloedd fel y canolbarth, gall fod yn olygfa gyffredin iawn yn y dyfodol."

Mae petalau pinc a phorffor y coed yn creu persawr sy'n cael eu cymharu yn aml i fisgedi fanila.

Mae gerddi'r castell yn cau ar Dachwedd 29 wrth i'r tymor ddod i ben.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific