Ym mis Rhagfyr y llynedd roedd 2,152 o alwadau
|
Mae ymgyrch wedi dechrau er mwyn tynnu sylw at drais yn y cartref dros y Nadolig. Llynedd fe alwodd bron 70 o bobl y dydd Linell Gymorth Camdrin yn y Cartref Cymru ym mis Rhagfyr. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am "arwyddion cynnar" cam-drin yn y cartre. Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Brian Gibbons: "Mae'n bwysig bod pobl yn deall bod unrhyw ffurf ar drais yn y cartref yn drosedd." Fe lansiodd yr ymgyrch wrth ymweld â Chymorth i Fenywod Cymru yng Nghaerdydd. 100 o blant Dywedodd yr elusen eu bod yn helpu lletya 100 o blant ar fyr rybudd dros gyfnod y Nadolig, rhai sy'n dianc rhag trais a chamdrin aelod o'r teulu. Mae hefyd yn rheoli llinell gymorth sy'n cynnig gwasanaeth ddydd a nos. Eisoes yn 2009 mae'r llinell gymorth wedi delio â 22,285 o alwadau, cynnydd o 176% ers 2004. Ym mis Rhagfyr y llynedd, atebwyd 2,152 o alwadau, cyfartaledd o 69 o alwadau bob dydd oddi wrth bobl yn dioddef o gam-drin yn y cartref. "Mae staff Llinell Gymorth Camdrin yn y Cartref Cymru yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawnt, yn enwedig yn ystod mis Rhagfyr pan mae straen y Nadolig yn golygu llawer mwy o bobol yn dioddef o drais yn y cartref," meddai Dr Gibbons. "Fe ddylai unrhywun mewn perthynas treisgar alw'r llinell gymorth er mwyn cael cyngor a chefnogaeth." Y rhif ffon yw 0808 8010 800
|