British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009, 17:48 GMT
Arweinyddiaeth: Y blychau'n cau

Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis
Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis ydi'r tri sy'n gobeithio olynu Rhodri Morgan

Mae'r blychau pleidleisio wedi cau ar gyfer dewis olynydd i Rhodri Morgan.

Tri sydd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur yng Nghymru.

Roedd y blychau yn cau am 5pm ddydd Iau.

Fe fydd yr enillydd, Carwyn Jones, Edwina Hart neu Huw Lewis, yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i'r enillydd gael ei benodi wythnos yn ddiweddarach yn brif weinidog nesaf Cymru wrth i Mr Morgan adael y swydd.

Yn y cyfamser dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy y dylai pwy bynnag sy'n fuddugol gynnwys y ddau ymgeisydd arall yng nghabinet Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Mr Murphy wedi canmol ymddygiad ac ymgyrchoedd y tri ymgeisydd.

Mae pleidleisiau aelodau etholedig y blaid (aelodau cynulliad, aelodau seneddol a'r un aelod seneddol Ewrop) yn cyfateb i draean y cyfanswm.

Mae Bydd pleidleisiau aelodau cyffredin o'r blaid yn cyfateb i draean arall a rhai'r undebau a chymdeithasau llafur yng Nghymru yn cyfateb i'r traean olaf.



HEFYD
Tri ymgeisydd: Pwyso a mesur
15 Hyd 09 |  Newyddion
Olynydd Morgan: Ras yn dechrau
05 Hyd 09 |  Newyddion
Pwy fydd yn olynu Morgan?
02 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific