British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009, 06:53 GMT
Hanesydd a ffotograffydd yn creu cyfrol

Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw
John Davies: "Mae'r mannau o dan sylw i gyd yn gynnyrch llafur dynolryw"

Mae ffotograffydd wedi disgrifio'r "marathon o daith" y bu arni er mwyn tynnu lluniau i gyfrol newydd.

Mae Marian Delyth wedi bod yn cyd-weithio am fisoedd â'r hanesydd John Davies, gan gofnodi Cymru drwy lun a gair ar gyfer y gyfrol Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw.

Ei gwaith hi, ynghyd â'i chamera, oedd cyfleu pob lleoliad o ddewis John Davies mewn llun.

Ceir arweiniad i bob cwr o'r wlad, gan ddechrau ym Mynydd Parys, Ynys Môn, cyn ymlwybro draw i Bennant Melangell a Phontcysyllte, lawr i Ystrad-fflur a Hendy-gwyn, heibio Aberdâr a'r Fenni cyn gorffen y daith ger yr ail groesfan ar draws aber Afon Hafren.

'Dyfalbarhad'

Dywedodd Marian Delyth: "Mae tynnu lluniau 100 o lefydd yn gofyn am dipyn o ymroddiad, amynedd a dyfalbarhad.

"Erbyn cyrraedd diwedd y daith serch hynny - mae'r diolch yn drech na'r dannod - am i John Davies yn ei ddull dihafal ei hun fy arwain i ambell berl o lecyn ac ardaloedd na wyddwn i fawr ddim amdanynt.

"Llefydd y byddaf yn siŵr o ddychwelyd iddynt eto gan na fedrwn oedi'n hir iawn y tro hwn".

Mae'r rhestr yn cynnwys mannau anghysbell fel Hen Bewpyr ger y Bontfaen, Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent a Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu ym Môn, yn ogystal â ffefrynnau amlwg fel Harlech, Biwmares, Portmeirion, Conwy, Y Mwmbwls a Dinbych-y-pysgod.

Dr John Davies
Yr awdur: Dr John Davies

Yn ôl John Davies: "Mae'r mannau o dan sylw i gyd yn gynnyrch llafur dynolryw.

"Dichon y gellid cynnwys mannau fel Llanddwyn ac Enlli mewn cyfrol yn ymwneud â'r 100 lle yng Nghymru sy'n enwog am eu harddwch naturiol; yn wir, byddai cyfrol o'r fath yn gymar addas i'r gyfrol hon."

Gwasg Y Lolfa sy'n cyhoeddi'r llyfr

Cafodd Dr Davies ei eni yn Y Rhondda .

Am flynyddoedd bu'n aelod o Adran Hanes Cymru, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn warden Neuadd Pantycelyn.

Yn ogystal â'r gyfrol enwog Hanes Cymru, mae wedi cyhoeddi cyfrolau am hanes Teulu Bute a Chaerdydd a hanes y BBC yng Nghymru.



HEFYD
'Llyfr pwysica' ar y silffoedd
31 Ion 08 |  Newyddion
Trysor o wybodaeth ar y we
26 Ion 07 |  Newyddion
Prosiect cyffrous am ein tywysogion
20 Ion 07 |  Newyddion
Hanes Cymru ar gael ar y we
22 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific