British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009, 13:35 GMT
'Na' i gau cylchoedd meithrin

Plant meithrin
Fe allai'r opsiwn arbed £250,000

Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi unrhyw gynigion allai arwain at gau ysgolion meithrin Cymraeg yng Ngwynedd.

Roedd swyddogion y cyngor wedi dweud y gallai cau'r ysgolion meithrin a chynnig llefydd ar gyfer plant tair oed o fewn ysgolion cynradd yn arbed £250,000.

Mae'r cynghorwyr wedi dweud bod angen adolygiad a chreu strategaeth ar gyfer addysg feithrin.

Yn y cyfamser, mae arweinydd y cyngor wedi dweud bod trafodaethau cychwynnol â Mudiad Ysgolion Meithrin wedi bod yn adeiladol.

Opsiynau

Mae'r cyngor yn ystyried opsiynau drafft i roi llai o arian ar gyfer grwpiau chwarae cyn-ysgol ac felly newid gofynion mynediad i ysgolion prif-lif.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi gofyn i bob cynghorydd wrthwynebu cynnwys trefniadau cyn-ysgol yn y pecyn toriadau £16 miliwn.

Mae Hywel Jones, Prif Weithredwr Mudiad Ysgol Meithrin, wedi dweud: "Rwy'n falch fod cynghorwyr Gwynedd wedi cynnal trafodaethau ystyrlon â'r mudiad ac wedi cytuno i drafodaethau pellach nid yn unig er mwyn diogelu'r ddarpariaeth ond hefyd er mwyn llunio strategaeth ar gyfer addysg feithrin."

Adeiladol

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd y cyngor, fod trafodaethau cychwynnol â Mudiad Ysgolion Meithrin wedi bod yn adeiladol.

"Mae gennym le i ymfalchïo yng ngwaith ein cylchoedd meithrin ledled Gwynedd a chefnogaeth y cyngor iddyn nhw.

"Rwy'n hyderus y bydd modd i'r mudiad a'r cyngor gydweithio ac ymateb i'r her o sicrhau parhad y ddarpariaeth ardderchog hwn."



HEFYD
Poeni am unedau meithrin
22 Hyd 09 |  Newyddion
Cynghorau: Codiad o hyd at 3%
13 Hyd 09 |  Newyddion
'Her aruthrol': Arbed £16 miliwn arall
11 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific