British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009, 06:58 GMT
Help llaw Hartson i uned ganser

TenUned symudol Tenovus
Mae'r uned eisoes wedi rhoi cymorth i 3,000 o bobl

Mae'r cyn-beldroediwr rhyngwladol John Hartson yn helpu lansio uned symudol yr elusen canser Tenovus yn y de orllewin.

Cafodd yr uned gyntaf o'i bath ei lansio gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.

Eisoes, mae'r uned symudol yn y de ddwyrain wedi rhoi cymorth i 3,000 o bobl.

Mae Hartson yn gwella ar ôl diodde o ganser y ceilliau oedd wedi lledu i'w ymennydd a'i ysgyfaint.

Yn ôl prif weithredwr Tenovus, Claudia McVie, mae dros 1,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin bob blwyddyn yn darganfod eu bod yn diodde o ganser.

Sir Gaerfyrddin, meddai, yw'r sir â'r ganran ucha ond un o achosion canser yng Nghymru.

Cefnogaeth

"Mae cleifion yn dweud ei fod yn well ganddyn nhw dderbyn triniaeth yn agosach i'w cartrefi," meddai.

"Mae Tenovus yn cefnogi dymuniadau cleifion ac rydym yn ceisio cwrdd â'r galw drwy ddod a gofal, triniaeth a gwasanaethau eraill i'r gymuned leol."

Mae'r uned symudol yn costio £300,000 y flwyddyn i'w chynnal.

John Hartson
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"

Bydd yr uned yn Sir Gaerfyrddin wedi ei leoli ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ac yna ym Mharc Trostre, Llanelli, yn y flwyddyn newydd.

Mae'r fenter, sy'n cael ei lansio ddydd Mawrth, wedi derbyn cefnogaeth Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Hilary Jones o'r Ymddiriedolaeth eu bod yn edrych ymlaen at roi cefnogaeth ychwanegol i gleifion canser a'u teuluoedd.

"Rydym hefyd yn gobeithio ehangu'r gwasanaeth yn y dyfodol i Geredigion a Sir Benfro," meddai.

Mae John Hartson, a fu'n chwarae i dimau Celtic ac Arsenal, wedi cyfadde iddo anwybyddu arwyddion ei fod yn diodde o ganser am ddwy flynedd.

Mae o nawr yn gwella ar ôl llawdriniaeth ac yn annog dynion i fynd i weld meddyg pe baen nhw'n dod o hyd i unrhyw beth anghyffredin ar eu cyrff.

Y flwyddyn nesa mae'n bwriadu priodi ei bartner Sarah McManus sy'n disgwyl eu hail blentyn.

Mae gan Hartson ddau o blant eraill.



HEFYD
John Hartson yn gadael ysbyty
11 Awst 09 |  Newyddion
Canser: Canolfan ymchwil newydd
10 Medi 09 |  Newyddion
Dadorchuddio uned ganser deithiol
03 Chwef 09 |  Newyddion
Hartson yn dioddef o ganser
13 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"
12 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific