Mae gan 67% o gartrefi yng Nghymru gysylltiad â'r rhyngrwyd
|
Gall un o bob tri chartref yng Nghymru na all gyrraedd y we golli gwybodaeth allweddol a chynigion gwell o ran gwasanaethau a nwyddau. Dyna gasgliad adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru. Ymhlith y wybodaeth sy'n cael ei cholli mae deunydd am ddiogelwch bwyd, rhybuddion tywydd a phenderfyniadau gwleidyddol. Dywedodd y mudiad y dylid sicrhau nad oedd rhai o fewn cymdeithas, gan gynnwys yr henoed a'r tlawd, yn cael "eu hanghofio." Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud eu bod yn paratoi ymateb. Mae'r adroddiad, Cysylltu neu Gau Allan, sy wedi ei seilio ar 10 mlynedd o wybodaeth, wedi nodi mai 67% o gartrefi Cymru sydd â chysylltiad â'r we - a bod 94% o'r rhain yn gysylltiad band eang. 750,000 Pobl rhwng 35 a 44 oed sy fwya tebygol o gael cysylltiad gwe yn eu cartref (83%) ac mae 37% yn defnyddio'r we y tu allan i'r cartref. Ond dywedodd yr adroddiad fod 'na 750,000 o oedolion yng Nghymru nad oedd yn defnyddio'r we. Dywedodd Sarah Richards o'r mudiad fod cysylltu â'r we yn "rhan hanfodol" o fywyd pob dydd oedolion. "Mae'r cynnydd yn y wybodaeth a'r bargeinion sy ar gael yn golygu bod y rhai sy naill ai'n methu neu'n dewis peidio â defnyddio'r rhyngrwyd mewn perygl o gael eu cau allan ... "Tra bod y drafodaeth am ardaloedd digyswllt yn bwysig, rhaid i ni beidio ag anghofio am y rhai sy wedi eu cau allan am resymau eraill, pobl sy naill ai'n methu â chael mynediad neu sy ddim yn gwerthfawrogi'r fantais o gysylltu â'r rhyngrwyd."
|