Dywed Julie-Jean George ei bod yn wynebu mwy o anawsterau wrth fynd yn hŷn
|
Mae dioddefwyr un o drychinebau meddygol mwyaf y pedair gwlad yn galw ar Lywodraeth San Steffan i dalu mwy o iawndal. Ar hyn o bryd mae mwy na 30 o bobl yng Nghymru yn byw gydag effeithiau cyffur Thalidomide 50 mlynedd wedi i'r cyffur achosi nam geni difrifol. Roedd y cyffur, gafodd ei gynhyrchu yn Yr Almaen, yn cael ei roi i ferched beichiog oedd yn dioddef salwch bore. Dywedodd yr Adran Iechyd fod y llywodraeth wedi talu miloedd o bunnoedd i ymddiriedolaeth sy'n cynnig iawndal. Erbyn hyn, meddai'r dioddefwyr, mae eu poenau'n ddifrifol a'u cyrff yn blino mwy. 10,000 Drwy'r byd fe gafodd 10,000 o fabanod eu geni â nam. Fe fu farw hanner o fewn misoedd tra bod y gweddill ag anableddau difrifol yn aml. Mae 450 o oroeswyr yn derbyn incwm blynyddol ar gyfartaledd o £18,000 oddi wrth Ymddiriedolaeth Thalidomide.
Roedd merched yn cymryd y cyffur i reoli salwch bore
|
Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu i rannu iawndal Distillers - Diageo erbyn hyn - farchnatodd y cyffur yn wreiddiol rhwng 1957 a 1961. Mae ymgyrch newydd yn honni bod dioddefwyr angen dwywaith y swm o arian. Dywedodd Julie-Jean George, 47 oed o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, wrth BBC Cymru fod mwy o anawsterau wrth fynd yn hŷn. Mae ganddi nam difrifol ar ei breichiau a'i dwylo. '70 oed' "Mae'n cyrff ni'n dirywio yn gynt na phobl eraill. "Dwi mewn poen difrifol yn aml oherwydd rwy'n gorfod gor-ddefnyddio rhannau eraill o fy nghorff. "Pan oeddwn i'n 30 oed fe ddywedodd arbenigwr fod fy nghorff fel un person 70 oed. Eglurodd bod y gost o addasu cartrefi a cheir yn "uchel iawn". "Dwi'n credu 'mod i angen £15,000 ychwanegol y flwyddyn," meddai. "Dyw hi ddim yn hawdd yn ariannol." 1957 Yr Adran Iechyd ganiataodd i'r gwasanaeth iechyd roi'r cyffur yn 1957. Maen nhw wedi dweud bod y llywodraeth wedi talu miloedd i'r ymddiriedolaeth i gynnig gwasanaeth da i'r dioddefwyr. Ar hyn o bryd mae cwmni Penn Pharmaceuticals, ger Tredegar, yn cynhyrchu'r cyffur. Mae meddygon Ysbyty Singleton Abertawe yn defnyddio'r cyffur i roi triniaeth i gleifion â math arbennig o ganser y gwaed. Mae rhai wedi dweud y dylai dioddefwyr y drasiedi wreiddiol gael rhywfaint o'r elw. Yng Nghymru mae meddygon yn dweud bod rheolau caeth mewn grym. Bydd y stori ar Week In Week Out, BBC Un Cymru, nos Fawrth, Tachwedd 17 am 11.35pm.
|