British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 20:53 GMT
Sylwadau ymgeisydd yn corddi

Edwina Hart
Mae sylwadau'r ymgeisydd wedi corddi'r dyfroedd

Mae sylwadau gan Edwina Hart wedi corddi'r dyfroedd ychydig dros wythnos cyn i'r pleidleisio ddod i ben yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae Ms Hart yn un o'r tri ymgeisydd i olynu Rhodri Morgan.

Fe ddywedodd, o ran ei hetholwyr hi, y byddai meistroli Chinieg neu Bengali yr un mor ddefnyddiol iddi a dysgu'r Gymraeg.

Roedd Ms Hart yn ymateb i gwestiwn ar raglen Y Byd ar Bedwar gan gwmni ITV Wales ar gyfer S4C nos Lun.

Mae Ms Hart yn ymgeisio am y swydd yn erbyn Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Huw Lewis, a Carwyn Jones, Cwnsler Cyffredinol Cymru ac Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Ms Hart yn Aelod Cynulliad dros etholaeth Gwyr.

Y cwestiwn gafodd ei ofyn i Ms Hart, sy'n Weinidog Iechyd Cymru, ar rifyn arbennig o'r Byd a'r Bedwar oedd a ddylai Prif Weinidog nesaf Cymru fedru'r Gymraeg.

"Na, dim o reidrwydd," oedd ymateb Ms Hart.

Beirniadaeth

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, bod Ms Hart wedi dweud ei bod yn "teimlo llawn gymaint o Gymraes a rhai sy'n siarad Cymraeg".

"O ran ei hetholaeth hi, mae'n debyg ei bod yn dweud bod hi'n lawn mor ddefnyddiol iddi fedru siarad Chineig er enghraifft.

"Cyplyswch hynny gydag ieithwedd ei maniffesto lle mae hi'n dweud bod eisiau i'r Gymraeg fod iaith i bawb, yn poeni y gallai i ysgolion Cymraeg droi yn yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'the exclusive preserve of a self-appointed minority'.

"Gallwch weld pam fod 'na feirniadaeth wedi bod pryd hynny gan y rhai sy'n gefnogol i'r Gymraeg ac y bydd 'na feirniadaeth ar ôl ei sylwadau diweddara," ychwanegodd Betsan Powys.

Dywedodd y golygydd ei bod wedi siarad gyda nifer yn ystod y dydd sy'n gefnogol i'r iaith Gymraeg ac i Ms Hart.

"Os oes rhaid iddi ddefnyddio'r math yma o iaith i ddenu ambell bleidlais, yna fe allen nhw fyw gyda hynny," ychwanegodd Betsan Powys.

Wythnos yn unig sydd 'na cyn i'r blychau pleidleisio gau.

Mae'n debygol iawn bod mwyafrif eisoes wedi bwrw eu pleidlais.

Dywedodd Betsan Powys bod y tîm sydd y tu cefn i Ms Hart yn dweud nad oes 'na ddim anghyffredin o ran sylwedd yr hyn ddywedodd Ms Hart.

"Ond o ran yr ieithwedd, mae hi'n defnyddio iaith blaen, fel y gwnaeth 10 mlynedd yn ôl, fel y bydd yn ei wneud pe tai hi'n brif weinidog.

"Y cwestiwn canolog felly, nid yr ieithwedd, nid yr iaith, nid beth fydd hi'n ddweud fel prif weinidog, ond be fydd hi'n wneud fel prif weinidog."



HEFYD
Economi: 'Bydd angen cadernid'
10 Tach 09 |  Newyddion
Barn ymgeiswyr ar yr amgylchedd
09 Tach 09 |  Newyddion
Tri ymgeisydd: 'Ymateb cymysg'
27 Hyd 09 |  Newyddion
Llafur: Pwy sy'n cefnogi pwy
22 Hyd 09 |  Newyddion
Pwy fydd yn olynu Morgan?
02 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific