British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 17:53 GMT
Gwahardd gyrrwr 84 oed

Llys Ynadon Pretatyn
Clywodd ynadon nad oedd disgwyl iddi yrru eto

Mae dynes 84 oed yrrodd ar ffordd ddeuol i'r cyfeiriad anghywir wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am 12 mis.

Dywedodd Margaret Street o Brestatyn wrth yr heddlu ei bod hi "wedi drysu" ar ei ffordd adre ar ffordd yr A525, ffordd osgoi Rhuddlan.

Clywodd Ynadon Prestatyn nad oedd hi'n gwybod beth i'w wneud, stopio'r car a throi'n ôl neu barhau.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o yrru yn beryglus ac fe fydd rhaid iddi dalu dirwy o £60 a chostau o £85.

Er ei bod yn gorfod cymryd prawf gyrru dwys, clywodd yr ynadon ei bod yn annhebygol y byddai'n gyrru eto.

Dywedodd yr erlynydd Helena Jackson fod plismyn yn gyrru ar y ffordd ddeuol wedi gweld car yn nesáu atyn nhw ar Hydref 7 am 10pm.

Golau glas

Roedd yr heddlu, meddai, wedi troi eu golau glas ymlaen i rybuddio gyrwyr eraill oedd y tu ôl iddyn nhw.

Fe gyrhaeddodd yr heddlu Gylchfan Rhuddlan cyn troi'n ôl a stopio Street.

Clywodd y llys fod Street wedi dweud ei bod wedi mynd i Lanelwy a'i bod fel arfer yn dychwelyd drwy Ruddlan.

Dywedodd Gwyn Jones ar ran yr amddiffyn fod Street wedi sylweddoli ei bod wedi gwneud camgymeriad dybryd.

Roedd y diffynnydd, meddai, yn derbyn bod safon ei gyrru yn is nag un gyrrwr gofalus a rhesymol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific