British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2009, 07:25 GMT
Pryder cyllid i gwmni sy'n 25 oed

Galeri
Fe fydd perfformiad diweddara'r cwmni yn Galeri

Mae un o'r cwmnïau theatr mewn addysg yng Nghymru yn 25 oed.

Dydd Mawrth fe fydd Cwmni'r Frân Wen yn perfformio yn Galeri Caernarfon fel rhan o ddathliadau chwarter canrif y cwmni.

Ond er y dathliadau o gyrraedd carreg filltir nodedig mae 'na bryderon hefyd.

Mae 'na ansicrwydd a fydd 'na arian i gyllido'r cwmni yn y dyfodol.

Martha Drafferthus ydi cynhyrchiad diweddara'r cwmni.

Iola Ynyr ydi cyfarwyddwraig artistig cwmni.

Dywed ei bod yn teimlo bod y cwmni yn gwneud gwaith pwysig efo plant a phobl ifanc.

Gwahanol i wers

Ond mae 'na bryder am ddyfodol y cwmni.

"Mae unrhyw gynhyrchiad theatrig yn cyffwrdd plant a phobl ifanc mewn ffordd gwbl unigryw ac yn hollol wahanol i wers arferol.

"Mae'r profiad yn unigryw a modd o allu trafod materion hynod o sensitif na allai athro ei gyflwyno.

"Mae cael actorion byw a cherddorion i berfformio yn eu cynefin yn arbennig iawn."

Mae'r cwmni yn cynnig y gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Caiff y cwmni eu hariannu yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymraeg a'r cynghorau sir Gwynedd, Môn a Chonwy.

'Ymladd ymysg ein gilydd'

"Mae'r Cyngor Celfyddydau yn mynd drwy adolygiad busnes ar hyn o bryd gan edrych ar bob client refeniw.

"Does gan neb sicrwydd ar ôl y flwyddyn ariannol nesaf.

"Pawb yn ymladd ymysg ein gilydd....

"Mae'n anorfod y bydd rhaid i rai cwmnïau orfod diodde.

"Fe fyddwn ni'n gwybod ym mis Mehefin 2010 a fyddwn ni'n dod i ben neu y byddwn wedi cael tair blynedd ychwanegol.

"Mae'n rhaid bod yn ffyddiog, mae'n rhoi her ond hefyd yn gwneud i ni ail ystyried sut ydan ni am ailddatblygu a ffynnu sy'n fodd o'n sbarduno yn fwy byth."



HEFYD
Theatr: Cymhorthdal o £15m
20 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific