Roedd y ddamwain brynhawn Sadwrn
|
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn damwain ffordd dros y penwythnos. Roedd Nicholas Jones, 34 oed o ardal Nefyn, yn gyrru Vauxhall Astra brynhawn Sadwrn ar yr A497 ym Moduan ger Pwllheli. Fe gafodd dyn oedd yn gyrru Volkswagen Passat fân anafiadau. Dywedodd yr heddlu eu bod yn chwilio am dystion.
|