British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009, 17:14 GMT
38 byji wedi marw mewn sioe

Byji glas ( BBC )
Roedd 38 o fyjis wedi marw yn y neuadd

Mae 'na ddirgelwch oherwydd marwolaeth hyd at 38 o fyjis yn ystod sioe mewn neuadd eglwys.

Fe gasglodd perchnogion a threfnwyr yn Y Felinheli 350 o gewyll ar ôl i rai o'r adar fynd yn anymwybodol.

Dywedodd trefnwyr y sioe bod yr adar, oedd wedi ennill gwobrau, mewn rhannau gwahanol o'r neuadd.

Mae cyngor yr eglwys wedi dweud eu bod yn ymchwilio ond nad oedd "achos amlwg" ar hyn o bryd.

Fe gollodd Dave Cottrell, 55 oed a chyn-berchennog siop anifeiliaid anwes, 10 o adar.

"Mi oeddwn i'n paratoi'r tystysgrifau wrth i'r adar gael eu rhoi mewn trefn pan ddaeth stiward draw a dweud bod un wedi marw.

"Daeth stiward arall draw a dweud bod dau neu dri wedi marw.

Awyr agored

"O fewn eiliadau dywedodd trydydd stiward fod mwy o adar wedi marw."

Dywedodd Mr Cottrell ei fod yn credu bod 'na nam ar y boeler neu'r popty.

Mae Robert Hughes, 34 oed a threfnydd y sioe,: "O fewn pum munud ar ôl i'r aderyn cyntaf farw roedd 11 wedi mynd, gan gynnwys un o fy adar i."

Dywedodd eu bod wedi symud y cewyll i'r awyr agored.

"Dwi'n siwr bod hynny wedi achub rhai o'r adar.

"Does neb wedi clywed am rywbeth fel hyn o'r blaen. Mae'n rhyfedd ac yn anodd ei dderbyn."

Canfodydd

Dywedodd Len Williams o'r cyngor eglwysig fod canfodydd carbon monocsid yn yr adeilad ond dim arwyddion fod nwy wedi gollwng.

Ychwanegodd Mr Williams nad oedd y gwres ymlaen ar gais y trefnwyr.

"Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud bod y neuadd yn iawn ac rydym yn llogi'r neuadd eto."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific