Y gobaith ydi y bydd mwy yn defnyddio'r Gymraeg wrth siopa
|
Mae ymgyrch sy'n anelu at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gwaith wedi dechrau ddydd Llun. Archfarchnadoedd sy'n cymryd rhan yn ymgyrch genedlaethol Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd arolwg y bwrdd wedi awgrymu bod 76% o bobl Cymru'n credu bod arwyddion a marchnata dwyieithog yn bwysig. Dechreuodd taith Iaith Gwaith yn Tesco, Ffordd y De, Caernarfon, ddydd Llun wrth dynnu sylw at fanteision defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith. Mae archfarchnadoedd Sainsbury's, Morrisons, Tesco, Asda a'r Co-operative yn cefnogi'r ymgyrch sy'n cael ei chynnal drwy gydol y mis. Bydd pobl sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn â logo Iaith Gwaith arno. 'Ymroddiad' Dywedodd rheolwr Tesco Caernarfon, Matt Ruscoe: "Mae nifer helaeth o'n staff yn siaradwyr Cymraeg ac rydan ni'n eu hannog i wisgo'u bathodynnau wrth weithio fel bod modd i gwsmeriaid eu hadnabod. "Mae'n arwydd arall o'n hymroddiad i'r iaith Gymraeg ac yn rhywbeth sy'n cael ei gymeradwyo gan staff a chwsmeriaid."
Mae'r cardiau yma ar gael i gynorthwyo siopwyr
|
Dywedodd Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Prif amcan Iaith Gwaith yw ei gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd o ddydd i ddydd neu yn y gwaith ... "Mae'r archfarchnadoedd yn rhan o fywyd dyddiol nifer o bobl. "Ac mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn ac mae'r daith hon o amgylch Cymru yn helpu cynyddu'r defnydd sydd ohoni."
|